Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

threfnu

threfnu

mae'r gwyn yn dilyn honiad gan Bacher fod buddugoliaeth India yn erbyn Pacistan yng Nghwpan y Byd wedi ei threfnu ymlaen llaw.

Synnwyr cyffredin yw llawer o'r sylwadau wrth gwrs ond y mae'n ddefnyddiol cael yr holl orchwylion ynglyn â threfnu digwyddiad o'r fath yn rhestr daclus.

Yr oedd hyn yn brofiad digon diflas yn aml; llosgi ystafell mewn neuadd neu ysgol mewn pentref, penodi dyddiad a threfnu siaradwr; hwnnw weithiau'n tom'i gyhoeddiad ar y funud olaf ac nid oedd dim amdani ond mynd yno fy hun a chyhoeddi neges y Blaid cystal ag y gallwn Ni chaem fawr ddim cefnogaeth mewn aml ardal, ychydig a ddeuai i'r cyfarfodydd a drefnid - rhyw hanner dwsin a llai na hynny yn aml ac weithiau neb yn troi i fyny.

Fu yna erioed ddim byd tebyg o'r blaen ond gydag Eisteddfodau yr Urdd, Môn a Phontrhydfendigaid ddim yn cael eu cynnal - heb sôn am yr amheuon ynglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol - mae gwefan Annedd y Cynganeddwyr "wedi llamu i'r bwlch" a threfnu e-steddfod ar gyfer y beirdd.

ADRODDIADAU ERAILL ADRODDIAD YR IS-BWYLLGOR CYMRAEG Cyfarfu'r pwyllgor bum gwaith yn ystod y flwyddyn yn ogystal a threfnu dau gyfarfod arbennig gyda swyddogion CCC Cafwyd trafodaeth gyda George Owen, Swyddog Drama C.Dd.C a'r Eisteddfod Genedlaethol, a theimlwyd fod gwelliant cyffredinol yn y trefniadau ar faes yr Eisteddfod ond fod gofyn trafodaeth bellach am rai elfennau.

Bu Cymdeithas yr Iaith yn eu cefnogi trwy gyhoeddusrwydd, picedu, codi arian a threfnu gwyliau i deuluoedd glöwyr.

Tŷ'r Cymry Agorwyd tymor newydd y Gymdeithas Gymraeg yn y Crypt Eglwys Mihangel Sant gyda rhaglen wedi ei threfnu gan yr ysgrifennydd.

Ddoe, ddydd Llun, roeddwn i'n dyfalu pa stori a gawn i'r tudalen blaen yr wythnos hon pan gofiais fod arddangosfa o waith plant hynaf Yr Ysgol Gyfun wedi ei threfnu gan Aneirin Rees, yr athro arlunio, a'm bod wedi addo iddo yr ysgrifennwn erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

ymgymryd â threfnu'r chwaraeon ac anogodd bawb i gefnogi'r pwyllgor y tymor nesaf.

Mae cyn-gapten tîm criced India, Mohammed Azzaradin, wedi gwadu fod ganddo unrhyw gysylltiad â threfnu canlyniadau gemau criced.

Roedd brwdfrydedd ac egni gan y grŵp a'r cwmni i wneud y recordiau yn llwyddiant, drwy eu hyrwyddo nhw'n drylwyr a threfnu nosweithiau.

Yn benodol, ymysg bagad gofalon y Swyddog Drama, byddai'r cyfrifoldeb o annog a threfnu perfformiadau a chystadlaethau.

Gallai'r Cynulliad fynd yn bellach a threfnu ar gyfer 2000 symposiwm cenedlaethol ar ddatblygu ysgolion gwledig fel un o'n hasedau fel Cymry.

Menter fasnachol yw'r wibdaith, wedi ei threfnu gan Ddigwyddiadau egni, rhan o S4C Rhyngwladol.

Fel arfer, byddai bws fach wedi ei threfnu i ddod â'r hogiau draw.

Y mae'n rhaid wrth y ddeubeth, y deunydd crai, neu'r ffeithiau y mae'r gwyddonydd yn eu cael o'r byd o'i gwmpas, yr hyn a wêl y llygad ac a glyw'r glust, a hefyd y peirianwaith cywrain sy'n rhan o gynheddfau'r meddwl i ddosbarthu a threfnu'r deunydd hwn.

a) Cydlynu a chefnogi rhwydwaith gweithgareddau'r canghennau lleol drwy ymweld â hwy'n gyson yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar y cyd i holl ganghennau'r ardal, megis nosweithiau Cabaret, a theithiau i Sain Ffagan.

Cefais innau'r gwaith o ddidoli a threfnu'r miloedd o ohebiaethau, taflenni, posteri a ffotograffau sy'n cofnodi eu cyfraniad unigryw i'r Mudiad Heddwch a'r Blaid Lafur Gymreig.

Mae rhaglen wedi ei threfnu am y tymor yn cynnwys cwrs cymorth cyntaf, crefft, trin gwallt, cwis a helfa drysor i enwi ond ychydig.

Gofynnais iddo ganiata/ u i ferch mor ddawnus â Miss Derwent gael mynychu Cynhadledd y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn, a oedd wedi ei threfnu ar gyfer y penwythnos olaf ym mis Medi.