Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

threuliodd

threuliodd

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Oes aur y dica/ u oedd blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a threuliodd Ieuan Gwynedd - gyfran helaeth o'i oes yn ymladd am ei anadl, yn tuchan a phesychu, ac yn poeri gwaed.

Bu yng Ngholeg Technegol Bangor a threuliodd dair blynedd yn yr Amwythig a Thelford.

Fe gofiwch i David Phillips, Waun-lwyd, ddwyn offer marchogaeth a dillad tra'n gweithio ym mhlas Cilwendeg, a threuliodd flwyddyn o lafur caled yn gweithio'r felin droed yng ngharchar Hwlffordd am ei drosedd.

Ar ei dystiolaeth ei hun bywyd digon ofer a fu ei hanes am ran helaeth o'i oes, ond daeth i brofiad trwy droedigaeth o'r Crist yn gwaredu, a threuliodd y rhan olaf o'i oes yn tystio i ddawn yr efengyl yn achub hyd yr eithaf.

Aeth y daith yn hwy na'i ddisgwyl, a threuliodd ei amser yn gwneud cyfrifon ariannol yn ei ben, a chael ei fod, hyd yn hyn, beth bynnag, wedi ymgadw'n gysurus o fewn ei ffiniau gwario am y dydd.

NId ysgolhaig a bardd yn unig oedd John Morris-Jones, ond athro hyd fêr ei esgyrn, a threuliodd ei flynyddoedd aeddfetaf yn dysgu i genedl y Cymry, trwy'r Eisteddfod a'r wasg, sut i farddoni.