Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thri

thri

Roedd y llwybr yn ofnadwy ­ dau gam ymlaen a llithro thri yn ôl.

Felly ar ôl i fi drafod y mater â'm gwraig a thri o blant bach, penderfynais dderbyn y gwahoddiad.

Yn lled dywyllwch y capel y mae Ceri Sherlock a thri arall yn eu cwman dros offer sain a sgrins yn cydgordio'r holl weithgarwch yn fyddar i diwn y criced yn y waliau.

Fred Jones a HR Etholwyd swyddogion - Lewis Valentine yn Llywydd, Moses Gruffydd yn Drysorydd, HR Jones yn Ysgrifennydd, a thri aelod arall o'r pwyllgor gwaith, Saunders Lewis, Fred Jones a D.l.

Pan gynhaliwyd ei wasanaeth sefydlu ym Mwcle, daeth ei dad yno o Flaen-y-coed, ynghyd a thri neu bedwar o ddiaconiaid yr eglwys gartref.

Daeth Rhodri'n ôl a thri diod yn ei ddwylo.

Cynnwys y gyfrol yw tri deg pedwar o delynegion Saesneg a thri deg wyth o rai Cymraeg.

Wedi blwyddyn a thri mis yn ysgol Brynrefail symudais i Awstralia.

Yn y sefyllfa gymysglyd hon rhoddwyd hawl i ddim llai na thri grŵp o nofwyr chwilio am y llongddrylliad ac o ganlyniad gweithiai gwahanol grwpiau ar wahanol rannau o'r safle.

Roedd digonedd ohonynt, tua thri chant i gyd.

Os gwnaiff Y Barri guro TNS ar Barc Jenner bydd tîm Peter Nicholas yn codi i frig Grwp C gyda thri phwynt yn fwy na'r tîm o Lansantffraid ac Abertawe.

Rhythai ei llygaid agored drwy'r tywyllwch, a lluniau o'i thri phlentyn fel lledrithiau niwlog yn dawnsio'n araf o'i blaen.

Ond wrth gwrs dwg unrhyw gyfnewid fel hyn ei broblemau, ac yn fuan cafwyd cyfres ohonynt, a bu rhaid penderfynu ynglŷn a thri pheth hanfodol, tair sialens y bu rhaid eu ,hwynebu.

Trueni i'r pwyllgor fethu a sylwi ar sylwadau helaeth yr ysgrifennydd cyffredinol yn yr adroddiad, llun dalen flaen o'r Wyl y dydd Mercher yn ei dilyn a thri tudalen o luniau a stori yn tynnu sylw at ei 'llwyddiant' yr wythnos wedyn.

Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o £3,000 yr un i'r enillwyr ym mhob categori a £1,000 yr un hefyd i'r awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer..

Yr oedd hi yn byw yn Lloegr gyda'i gwr a thri o blant.

Cafwyd tri rhediad o gant a mwy ganddo yn ogystal a thri chyfraniad o dros hanner cant.

Mae Belarus yn chwilio am reolwr newydd lai na thri mis cyn eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Cymru.

Heno, yn Grwp C, bydd Iwgoslafia, gyda phedwar pwynt yn chwarae yn erbyn Sbaen sydd â thri phwynt.

Ym mrwydr Baddon fe ddywedir iddo ef ei hun ladd naw cant a thri ugain o filwyr y gelyn.

Mae pedwar deg y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd problemau personol; dau ddeg saith y cant o ferched a thri deg chwech y cant o ddynion yn crio oherwydd dylanwad y cyfryngau.

Ac yr oeddem, gan nad beth, wedi cerdded tua phedair milltir ar ddeg, gan fod y pellter i Bencader, yn ôl yr awdurdod yn Stoke-on-Trent, yn bedair milltir ar ddeg a thri chwarter.

Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl.

Doedd yr adran ddim wedi colli mwy na thri mewn blwyddyn gyfan o'r blaen!

Ar ôl llaw-driniaeth echdoe maen awr yn sicr y bydd Taylor mâs am o leia chwe wythnos, ac fe allai fod mâs am gymaint â thri mis.

A bydd Norwy, gyda thri phwynt, yn chwarae Slovenia.

Awgrymai hwn y dylai pob ysgol gau os byddai llai na hanner cant o blant a thri athro ynddi, ac y dylai'r plant gael-eu gyrru i 'ysgolion ardal' pwrpasol.

Ymddangosodd pedwar o'r Ffindir ar lwyfan y noson derfynol o'i gymharu â thri o Canada, Yr Almaen, Yr Unol Daleithau a Chymru.

Roedd wedi dweud y flwyddyn gynt y dylai Tegla fod wedi gadael i W^r Pen y Bryn gwblhau'r drwg a oedd ynddo, yn hytrach na'i achub, a throi'r nofel yn bregeth gyda thri phen iddi (An Introduction to Contemporary Welsh Literature).

Ond er iddynt dreulio dwyawr digon anghysurus yn swatio a gwylio yng nghefn y ffynnon ni welsant undyn byw a thri digon siomedig a drodd eu hwynebau tuag adref fel y teimlent y dafnau cyntaf o law yn disgyn ar eu talcennau.

Tybiai y byddai'r weithred olaf hon yn dod â heddwch o'r diwedd iddi hi a'i thri phlentyn.