Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thrin

thrin

Caiff y garthffosiaeth hefyd ei thrin yma yn fiolegol.

Dywedodd llefarydd Gwasanaeth y Carchardai: Dyw'r mater ddim yn ymwneud â thrin carcharorion.

Gwell oedd ganddo gydio mewn llyfr nag yng nghorn yr aradr; trin, diwyllio meddwl na thrin daear, a hau gwybodaeth na hau ceirch a gwenith.

Fel mater o ffaith, cafodd Plaid Cymru ei thrin rywbeth yn debyg.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Ychydig iawn o amynedd oedd gan awdurdodau'r ysbyty â'r math hwn o ynfydrwydd, ac yn hytrach nag ymddiried ynddynt hwy penderfynodd ef geisio cael y cyffuriau angenrheidiol yn ddirgel, a thrin yr aflwydd ei hun.

Caiff ei yrru gan ei ddicter diorffwys i'w sarhau'n gyson, amau cymhelliad pob gair a lefara a'i thrin yn is na baw sawdl, er mwyn gosod prawf ar ei ffyddlondeb iddo ac er mwyn dangos iddi nad yw ef wedi colli dim o'i allu fel marchog ymladdgar llwyddiannus.

Cafodd glaw di-ddiwedd y gaeaf effaith ar ffermydd tir ar heb gyfle i ddechrau aredig na thrin y tir.

Yn ogystal â thrin gwallt rydw i'n hyfforddwr sboncen, felly, os oes unrhyw un eisiau gwersi maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim.

Yr hyn sy'n newid yw ei ddull ffurfiol ef o fynegi'r profiad wrth iddo arbrofi â thrin a thrafod paent.

Nid ar siawns y dewisir lleoliad y twll ac os bydd cae tro neu ardd yn cael ei thrin yn agos at ganolfan cwningod dyna'r lle y dewis y fam guddio'i hepil.

Os nad oedd eu teimladau tuag at Heledd yn ddigon i'w hatal rhag ei thrin hi fel y gwnaethon nhw yn y lle cyntaf, yna rhagrith fyddai hi iddyn nhw ymddwyn fel petai canlyniad eu hamddygiad yn mennu llawer arnyn nhw nawr." "Rwyt ti'n siarad yn ysgubol iawn - bron fel petaen nhw wedi cynllunio'r peth mewn gwaed oer." "O, mi wn i; siarad yn fy nghyfer roeddwn i.

Ar y pryd rhyfeddais at y ddyfais anhygoel ond erbyn hyn ni chredaf fod JH (a dyna fyddai pawb yn ei alw) yn bencampwr ar ei thrin oherwydd ymddangosai'r lluniau â'u hwyneb i waered yn lled aml.

Daeth rheolau glanweithdra wrth odro a thrin llaeth i'w afon i'r ffatri yn llawer mwy llym.

DYLAI'R Gymraeg gael ei thrin yn gydradd â'r Saesneg yn holl ysgolion Cymru.