Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thros

thros

Bu+m i mor lwcus â chael gweld un ffilm hir ar ddeg a thros ugain o ffilmiau byrion.

Bydd y Grwp Addysg nawr yn dechrau ymgyrch gref yn erbyn Unben Addysg Cymru a'r Quangos, a thros Gyngor Addysg i Gymru.

chwilio am ddarnau o frigau crin o 'r llwyni a 'u hyrddio i ganol yr afon, ac yna ras wyllt i lawr y lan i weld y cychod yn ysgythru rhwng a thros y cerrig dan rym y lli.

Trefn yw'r peth pwysicaf a feistrola baban, yn anymwybodol mae'n wir a thros gyfnod o amser.

Os trof fy wyneb tua'r gogledd, dros y bencydd moel a'r rhosydd llaith, heibio i Gnwc-y-frân a thros afon Carrog ar hyd Cefn Du ac ymyl Penlanolau, dof at fy hen gartref yng nghysgod y graig yn ymyl y llyn.

Mae e'n gwlffyn o fachan, chwe troedfedd a chwe modfedd a thros ddeunaw stôn.

Mae gwahaniaeth rhwng lleuad a lleuad mewn gogoniant hefyd gyda thros ugain o dermau â lleuad yn rhan ohonyn nhw - yn amrywio o lleuad fain i leuad march melyn a lleuad naw nos ola.

`Yr hyn yr ŷn ni'n ei garu, rŷn ni'n ei warchod.' Dyna i mi oedd hanfod y chwyldro yn Ciwba, a hwnnw'n cael ei adlewyrchu ymhobman, yn y gofal dros bobl, a thros blant yn arbennig.

Ac wylwch, wylwch, fy mhobl, tros ei wraig yn ei thlodi a'i galar a thros ei blant troednoeth, carpiog, yn nannedd y gwynt .

Rhoddir anifeiliaid i bori yn y caeau ym mis Awst a thros y gaeaf er mwyn rheoli'r tyfiant a chynnal y tir glas ar gyfer y tegeiriannau.

Roedd safon y comisiynau o'r sector annibynnol yn uchel iawn eleni gyda thros 140 o oriau o raglenni - mwy nag erioed o'r blaen.

MAE CEFNDIR CYMDEITHASOL, amaethyddol a gwerinol Eifionydd yn rhan annatod ohonof, a thros y cyfnod o ugain mlynedd y bu+m yn yr Alban a Lloegr a thros y môr nid aeth diwrnod heibio na chefais gip a r Eifionydd yn nrych fy meddwl.

Enillodd droeon ar yr unawd tenor dan a thros bump ar hugain oed yn y Genedlaethol ac yn y blynyddoedd olaf yn cael ei ddyfarnu yn 'llais y flwyddyn' yn Eisteddfod Llangollen.

Gwelwyd y dirywiad mwyaf yn yr ardaloeddgwledig Mewn aradloedd fel Trearddur, Moelfre, Llanfair-yn-neubwll, Brynteg a Llanbedr - goch yr oedd 40% o'r boblogaeth wedi ei geni y tu allan i Gymru a thros 40% o'r boblogaeth hynny yn uniaith Saesneg.

Allan a Bholu ac Akram a thros y clawdd - ond gan ofalu mynd â'r sach hefo nhw.

Roedd agwedd y plant ysgol hyn yn yn wahanol iawn i'r siniciaeth a geir gan ambell golofnydd yng Nghymru, megis Gwilym Owen a Hafina Clwyd, sy'n credu y byddai'n rheitiach i ni ymgyrchu dros Gymraeg cywir na thros le'r Gymraeg ym maes technoleg.

Ond o blith cynllunwyr y theatr Gymraeg, mae un yn sicr yn adeiladu gyrfa lewyrchus iddo'i hun yng Nghymru a thros y ffin; a phetai unrhyw un yn meddwl am 'gynllunydd' fel rhyw fath o 'interior designer' wedi colli ei ffordd, buan y byddai sgwrs gydag Eryl Ellis yn ei ddarbwyllo fel arall.

Ar ddechrau'r ganrif gwelid dros drigain o aelodau a thros gant o wrandawyr.

Llyfr sydd yn dangos yr elfennau sylfaenol gyda thros 35 o luniau.

Dan gynllun felly nid oedd modd sicrhau nad oedd rhai cefnogwyr wedi arwyddo ddwywaith, ac eraill wedi arwyddo drostynt eu hunain yn ogystal â thros aelodau eraill o'r teulu.

Chwarelwr oedd 'Nhad yn ffermio ben bore, min nos a thros y Sul.

Wedi'r cyfan, dyma ddinas sy'n cael ei chyfrif gan UNESCO fel un o'r deuddeg canolfan bwysicaf o'r fath yn y byd, a thros chwe mil o'i hadeiladau wedi'u clustnodi fel rhai o bwysigrwydd eithriadol.

Llyfr i gyd-fynd â chyfres deledu o'r un enw, gyda thros 150 o luniau a mapiau.

Roedd cadwen felen fel aur am ei wddw a thros ei siaced ddenim gwisgai ei siaced ddu, y siaced a wisgai bob amser i fynd ar y Lambretta.

Yn erbyn y polisi hwn a thros werthoedd mwy dynol ac ysbrydol y mae glewion ifainc Cymdeithas yr Iaith yn ymladd gyda'r fath wrhydri.

Oherwydd o be wela' i, mi rydach chi dros Gymraeg sydd wedi ei hysgaru o'i gwreiddiau cymunedol a thros Gymraeg fydd heb unrhyw rym yn y dyfodol.

Dros y canrifoedd, mae sawl taid yn Llydaw wedi dangos rhai o'r meini hirion hyn i blant ei blant ac wedi gorfod ateb y cwestiwn "o ble y daeth y rhain, Taid?" A thros y blynyddoedd mae llawer o straeon yn esbonio'r hanes y tu ôl i'r meini.

Daethai o ganol nythaid o chwech o blant lle'r oedd pawb drosto'i hun a thros bawb arall yn un lobscows o egwyddor meddai hi.

Roedd y grūp Beca, a sefydlodd paul gyda'i frawd Peter, yn gyfrwng i roi llawer o'i syniadau ar waith, a thros y blynyddoedd ymunodd llawer o artistiaid â'r grūp.

Mewn ardaloedd fel Trearddur, Moelfre, Llanfair-yn-neubwll, Brynteg a Llanbedr - goch yr oedd 40% o'r boblogaeth wedi ei geni y tu allan i Gymru a thros 40% o'r boblogaeth hynny yn uniaith Saesneg.

Eto, medrai weld y copaon yn wyn a thros begwn yr Wyddfa 'roedd llewyrch pinc gwanwyn cynnar yn y ffurfafen.