Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thuedd

thuedd

Ac mae ei thuedd i gyfeirio wrth fynd heibio at fyrdd o feirniaid llenyddol ac ysgolheigion eraill yn ymylu ar fod, ar adegau, yn hunan barodi o'i harddull ei hun.

A thuedd rhai pobl o hyd yn y fan honno yw ystyried unrhyw daith gan y car recordio, dyweder, y tu hwnt i Bontypridd fel rhyw fath o saffari.

Datblyga Pryderi'n ŵr hael a charedig, gŵr sydd weithiau'n adlewyrchu balchder a thuedd i weithredu'n fyrbwyll yr hen drefn, ond eto gŵr dewr a chywir sy'n barod i roi ei fywyd ei hun er mwyn diogelu ei bobl.

Amcangyfrifwyd mai rhyw dri chan mil oedd ohonynt, gyda thuedd naturiol i'r boblogaeth grynhoi ar y tiroedd isel ac yn y dyffrynnoedd: anial a choediog oedd llawer o'r tiroedd uchel, ac anodd oedd teithio ar hyd y ffyrdd lleidiog a garw.

Ond yr hyn sy'n nodweddu iaith yw ei thuedd, bob amser, i gynrychioli meddyliau'r sawl sy'n ei harfer yn hytrach nag ail adrodd yr hyn a lefarodd person arall.

Ond pwysicach na hynny oll, roedd ganddi hi, fel yntau, ei nwydau; merch ei thad oedd, a thuedd ei nwyd hi oedd dianc rhag disgyblaeth.

Beirniadodd ef ei thuedd i ddibynnu ar hen noddfa stori%wyr fel Richard Hughes Williams, sef marwolaeth, yn y stori 'Yr Athronydd' (O Gors y Bryniau) ac meddai am y stori 'Newid Byd', o'r un gyfrol: Heddiw, ni sgrifennai'r pum gair olaf.