Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thynnu

thynnu

Ymhen rhyw bum munud, pwy ddaeth i mewn i'r bar, codi peint, a thynnu ei het, ond y plismon hwnnw.

Ond peidiwch â thynnu wyneb hir þ 'dydw i ddim yn bwriadu ymdrin rhagor â'r pwnc dyfrllyd hwnnw.

Yn y fynwent, fe safodd yn stond a thynnu ei gap o flaen un o'r meini coffa.

Ond doedd ei drafferthion o yn ddim o'i gymharu âr helynt y mae cwmni wisgi o'r Alban wedi ei thynnu yn ei ben yn Awstralia.

Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Dim ond 'i chario yn fy llaw a cheisio edrych fel pe bawn i newydd 'i thynnu i sychu chwys oddi ar fy nhalcen.

Roedd Jean Marcel wedi ei weld yn dod drwy'r gawod eira, dyn tal, main, a het ddu wedi ei thynnu dros ei dalcen, a choler ei gôt yn uchel dros y rhan isaf o'i wyneb.

y wawr yn codi ar Gymru, hualau'n cael eu lluchio ymaith, iau gormes canrifoedd yn cael ei thynnu, y mynyddoedd yn bloeddio canu, y coed yn curo dwylo, ac felly ymlaen.

Ein Dr Redwood annwyl ni: sws- iddo-bob-amser; y Blwbyrd cu, cyfeillgar (llawn hwyl a sbri a thynnu coes) a'i newydd nyth yng Ngwydir Haws (a Weilz).

Gwasgodd ei droed yn ddyfnach ar y sbardun, a wyliodd Gareth mewn anobaith wrth i'r nodwydd basio'r nawdeg a thynnu am y cant.

Yn ei thynnu i lawr beg neu ddau.

Mae rhaglen amrywiol wedi ei thynnu allan ar ein cyfer gan y pwyllgor.

Rhoddodd y masg ar ei ben a thynnu'r plwg heb unrhyw gymorth, fel pe bai'n hen gyfarwydd â gwneud hynny.

Y demtasiwn fawr ar hyn o bryd, wrth geisio esbonio'n hanesyddol sut y daeth y Diwygiad Efengylaidd, yw dadansoddi'r daioni a'i rhagflaenai a thynnu'r casgliad fod y Diwygiad yn gynnyrch anorfod y daioni hwnnw.

Roedd pump o feibion ym Mhlas Gwyn ac un ferch a aned a dwy droed "clwb" ganddi, a byddai ganddi rhyw gert fach a mul yn ei thynnu, a nyrs hefo hi bob amser.

Gafaelodd yn ei dwylo a'i thynnu'n ddiseremoni ar ei thraed a chyn iddi hi ddeall yn iawn beth oedd yn digwydd, cododd hi'n gorfforol a'i chario 'nôl i'r bwthyn.

Gafaelodd Ifor yn ei llaw i'w thynnu yn ôl i'r presennol, a phwyso drosti.

Hedfan dros y byd, ymweld â gwledydd gwahanol a thynnu lluniau.

Erbyn diwedd gêm y Springboks, fodd bynnag, nid yn unig yr oedd rhywun yn teimlo fel caur to ond cau pob ffensant a thynnu pob cyrtan hefyd rhag i neb ein gweld.

Roedd gwifren hir a chryf yn rhedeg o'r cloc ac yn cael ei thynnu y tu ôl i'r British Monarch.

Rhodri ddaru drugarhau wrthi meddai ef, a'i thynnu o gehena arfordir Clwyd i weddustra a gwareidd-dra Gartharmon.

Rhown ein dwylo yn y bag a thynnu allan saith llythyren heb eu gweld; edrychwn arnynt a dechrau'r gêm.

Ond mi allech ollwng iddi hi efo Nedw a gwenu a chwerthin y faint a fynnech chi heb ennyn dig awdurdod na thynnu gwg y sefydliad.

Wel, sdim byd sy'n bleser i gyd, dim un pleser y medri ddeud 'i fod o'n ddifrycheulyd" "Siarad drosot dy hun ngenath i " A thynnu'i law rydd dros ei gwar heibio'i blows ac at ei bronnau.

Dringodd Huw i'w fync yn gyflym a thynnu'r dillad i fyny at ei gorn gwddw.

Er i rywun yn y cwmni weiddi ar i bawb sefyll yn ei unfan, dechreuodd hi chwalu'i ffordd drwy'r boblach gan faglu ar draws traed hwn a hon ac arall wrth iddi ei theimlo'i hun yn cael ei thynnu ato fel at fagnet.

`Cymer gysur ei fod e'n cywilyddio', oedd ymateb y dyn camera, cyn dychwelyd i'r car a thynnu'r lluniau damni%ol yn ddirgel drwy'r ffenest'.

Y mae o gymorth i'r criw ffilmio gael edrych dros y ffilm sydd wedi ei thynnu i weld a yw ansawdd y deunydd y maent yn gweithio arno yn ddigon da.

Yr oedd y radicaliaid wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn Eglwys Lloegr, meddai, "ac wedi cyduno gydag O'Connell, a'r Pabyddion eraill ag sydd yn awr yn y Senedd, i'w diwreiddio a'i thynnu i lawr.

Dyn ar 'i linia, gefn dydd gola.' Cydiodd Obadeia Gruffudd ym mraich y setl, yn ffrwcslyd, a thynnu'i hun i godi mor frysiog â phosibl.

'Paid â thynnu dy gôt,' meddai Megan Evans fel roedd Llio'n cerdded i mewn.

Reit o'r cychwyn bu'r arbrawf yn colli hygrededd gan fod y gert bren yn cael ei thynnu ar fatiau rwber wedi eu gosod ar y ffyrdd.

Tric y gwynt, meddai wrtho'i hun, gan droi drosodd a thynnu ei fantell yn dynnach amdano.

Mae'n cyfleu'r digwyddiadau hanesyddol neu chwedlonol heb foesoli na thynnu gwers a heb geisio bod yn symbolaidd.

Dro arall gwelid y golygyddol yn troi'n adolygiad ar lyfr pwysig, un a roddai gyfle i'r golygydd roi ei farn arno, a thynnu sylw at yr hyn a fyddai'n berthnasol i'r ymofynwyr Undodaidd.

...Paid ƒ thynnu cymaint neu mi dorri di'r lein,' oedd cyngor Alun.

Un o'm prif bleserau yw darganfod planhigion prin yn eu cynefin yng Ngwynedd a thynnu eu lluniau.

Fe'i gwelais un bore ar fy ffordd i'r ysgol yn rhuthro o'r tŷ a thynnu'r drws yn glep ar ei ôl a gweiddi: 'Cadwch eich pres 'ta.