Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tirwedd

tirwedd

Fe edrychir yn gyntaf ar nodweddion y prif ffactorau, sef hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth, ac yna edrychir yn fanylach ar y berthynas rhyngddynt.

Wel dyna fi wedi rhoi rhyw fraslun o'r amodau a'r tirwedd ar y mynyddoedd yna ichwi.

Faint yw ein gofal am harddwch ein tirwedd ac yn dilyn rhesymeg Rio, y ddiwyllianau a thraddodiadau a gysylltir a'r un tiroedd?

Wrth gymharu partwn amaethu yng Nghymru gyda'r patrwm mewn gwledydd eraill, mae'n amlwg fod y patrwm cenedlaethol wedi datblygu oherwydd nodweddion arbennig y wlad o ran hinsawdd, tirwedd a phriddoedd.

Mae llawer o'r farn fod cyflwyno caniatâd Gorchymyn Datblygu Interim yn bwysig o ran gwarchod natur a'r tirwedd.

Mae'r system graddio yn ceisio crynhoi nodweddion hinsawdd, tirwedd a phriddoedd mewn un system sy'n disgrifio tir yn ôl ei ddefnyddioldeb amaethyddol.

Bu'n bnawn gwerth chweil gyda'r tri gŵr da, yn olrhain hanes 'Chwarel Bryn', y cymeriadau a weithiai yno, y teuluoedd oedd yn byw o gwmpas, ynghyd a thrafod nodweddion y tirwedd a'r ardal.

GWARCHOD NATUR, DAEAREG A'R TIRWEDD: Gall cloddio mwynau gael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar warchodaeth natur ac ar adnoddau tirweddol Gwynedd, o ran colled neu ddirywiad cynefinoedd lled-naturiol a newid tirweddau, tirffurfiau a defnyddiau tir traddodiadol.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adran Afonydd yn y Tirwedd, awgrymwch sut y gallai y pethau hyn fod wedi achosi llifogydd.

Gall gwrthdaro godi rhwng y tirwedd a gwarchod natur, er enghraifft.

Mae cryn newid wedi digwydd yng ngolwg y wlad a'r tirwedd.

Yn union fel y mae pobl wedi dylanwadu ar yr afonydd a'u tirwedd, y mae'n wir dweud bod y pethau hyn wedi effeithio ar fywydau pobl.

Ceisiwch feddwl sut y mae'r holl bethau hyn yn dylanwadu ar y tirwedd ac ar yr afon - a oes yna unrhyw bethau eraill na soniwyd amdanynt.

Os bychan o ran maint, tirwedd a phoblogaeth, anfarwolwyd y plwy gan bobl fel David Williams, Tū Newydd.

Bydd hyn yn effeithio ar feysydd fel llygredd, ynni a defnydd adnoddau, gwarchod natur a'r tirwedd a rheoli gwastraff.

Tasg anodd fodd bynnnag ydyw crynhoi dylanwad hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ar amaethyddiaeth yng Nghymru gan fod llawer o wybodaeth ar gael ynglyn a'r ffactorau hyn ac oherwydd fod y berthynas rhyngddynt yn gymhleth.

Nodwyd bod rhai athrawon, erbyn hyn, eisiau canllawiau gramadegol wrth ddysgu Cymraeg; AFONYDD YN Y TIRWEDD

Ond efallai mai un o'r dylanwadau pwysicaf ar y tirwedd yw'r bobl - ffermwyr, adeiladwyr a choedwigwyr.

Mae gan hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ddylanwadau lleol sy'n gyfrifol am yr amrywiaeth mawr yn y patrymau amaethu.

Ond aeth yn ei flaen i Gaer ac i Wolverhampton i astudio a graddio mewn cylfyddyd gain, a threulio dwy flynedd a hanner wedyn yn gweithio fel arlunydd ym Methesda, yn peintio portreadau, ond yn fwyaf arbennig, y tirwedd mynyddig o'i gwmpas.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Yn gyffredinol mae systemau amaethyddol yn datblygu o dan ddylanwadau cyson hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ond mae'r ffactorau hyn hefyd yn dylanwadu ar batrymau amaethu o fewn blynyddoedd a thymhorau.

Mae i ddefnydd cerrig mâl at greu ffyrdd oblygiadau ar ddefnydd ynni ac ar warchod natur a'r tirwedd.

Waeth sut afon yw hi, bydd eich afon neu nant leol yn debyg mewn sawl ffordd i Afon Conwy yng Ngogledd Cymru, yr afon a ddefnyddir yn yr astudiaeth achos yn yr adran ar Afonydd yn y Tirwedd.

Mae'n bosib bwydo pob math o fanylion am leoliadau yng Nghymru i mewn tirwedd, tywydd, adnoddau, llety - gan gynnwys lluniau manwl, ac mae cynhyrchwyr ar draws y byd yn gallu cael gafael ar y deunydd o fewn munudau.

Nodweddion y prif ffactorau Mae hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth Cymru wedi eu disgrifio'n fanwl mewn nifer o lyfrau ac erthyglau.

Wrth geisio rhoi braslun o brif nodweddion amaethyddiaeth, hinsawdd, tirwedd a phriddoedd yng Nghymru 'rydym eisioes wedi crybwyll rhai o'r dylanwadau a chysylltiadau rhyngddynt.

Y mae pob afon yn erydu'r tirwedd, rhai yn fwy na'i gilydd.

Ond y mae gan afonydd swyddogaeth arall bwysig yn y tirwedd, fel rhan o'r gylched graig.

EFFEITHIAU: Mae llawer o safleoedd diffaith yn werthfawr i'r amgylchedd o ran gwarchod natur a'r tirwedd.

Rhywle mewn ystafell ddirgel yn y Swyddfa Ryfel yn Llundain bu dynion yn gwyro uwch map o fynydd-dir Cymru, ac wedi astudio'r tirwedd a chyfrif erwau, daethpwyd i benderfyniad.

Mae'r nodyn a ganlyn sydd gan Maredudd ab Iestyn ei hun yn y rhaglen yn bwysig ac yn ddadlennol iawn, 'Fel pensaer mae gennyf ddiddordeb mewn ffurfiau adeiladau traddodiadol neu frodorol a'r modd y maent wedi eu gosod yn y tirwedd.

At ei gilydd, y mae'r rhan fwyaf o bobl wedi addasu eu bywydau fel eu bod mewn cytgord â'r afon a'r tirwedd.

Mae'r cyfleoedd i drin tir, er engraifft, yn ddibynnol ar wlybaniaeth y tir ac mae hyn yn ei dro yn ddibynnol ar lawiad, natur y pridd a'r tirwedd.

Gwneir defnydd da o'r tirwedd yma gan y bobl leol.

Ac mae'r tirwedd hefyd yn rhan o achos y cynefindra - y dyffrynnoedd gwyrdd rhwng y bryniau yn y glaw llwyd, y meini a'r cromlechi yn fud dan orchudd y niwl, y goeden unig yn y gwynt.