Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tlawd

tlawd

'Dydi byd gwan ar griadur tlawd ddim yn ddigon..." "Nag ydi.

Er slafio a chwysu chwartiau o fore gwyn tan nos, roedd yn ŵr tlawd o hyd.

"Mae'n ddrwg iawn gen i am geisio dwyn eich eiddo, ond bwci tlawd iawn ydw i heb ddigon o fwyd gennyf i'w roi i'm plant.

Doedd dim gwyr bonheddig yn trigo o fewn yr ardal, ac yno doedd neb ond clerigwyr i lenwi'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd.

Y gobaith yw y bydd y math yma o drefniant yn lleihau dylanwad y benthycwyr mawr diegwyddor sydd yn dod â diflastod i gynifer o deuluoedd tlawd.

Ceisiwyd hefyd greu cronfa ariannol newydd a elwir y GEF (Global Environmental Facility) mewn ymgais i ffynonellu arian i'r Trydydd Byd gan fod cymaint o'n hadnoddau bywydegol yn y gwledydd tlawd.

Dyna oedd yr Oes Aur i bobl Ariannin; câi Pero/ n ei gydnabod fel achubwr y tlawd, a'r genedl yn gyffredinol.

Digon tlawd eu byd oedd y rhain yn aml, ac yn dlotach am fod y rhan fwyaf ohonynt yn mynnu herio cyfraith ganon yr eglwys a phriodi !

Flynyddoedd maith yn ôl, roedd saer maen tlawd o'r enw Bernez yn byw ym mhentref Plouvineg.

Allwn ni wrth reddf ddim gadael i ysgolion mewn ardaloedd tlawd a difreintiedig 'gardota' ar ochor priffyrdd addysg.

Rhoi i'r rhai sydd ganddyn nhw'n barod fu prif ysgogiad y Toriaid dros y pymtheng mlynedd diwethaf gan wneud y tlawd yn dlotach ond rhoi i gyfran helaeth o'r dosbarth canol hyd yn oed arian i'w wastraffu.

Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.

Credaf ei fod yn beth arwyddoacol fod Williams, Elias ac yntau'n tarddu o gefndir tlawd a difantais.

Er ei bod yn hwyr iawn fe Iwyddodd i gael llety mewn gwesty digon tlawd yn y pentre.

Rhoes Waldo deyrnged i'w dad yn 'Y Tangnefeddwyr' Mae Gwirionedd gyda 'nhad meddai yn y pennill olaf, ac yn y trydydd, Angel y cartrefi tlawd Rhoes i 'nhad y ddeuberl drud : Cennad dyn yw bod yn frawd, Golud Duw yw'r awel fyd.

Ac os Crist yw 'Arthur' beth yw ystyr 'nes cofio o'r dihenydd tlawd/Fynd Arthur o'i flaen a throi'n Te Deum ei farwnad'?

Ymhellach, credwn fod gan Gymru bersbectif gwerthfawr ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhyngwladol a dylai'r Cynulliad ymgyrchu trwy sefydliadau fel Canolfan Cymru ar Faterion Rhyngwladol er mwyn hybu datblygiad cymdeithas byd-eang fwy teg lle rhennir adnoddau'n deg ac nid ecsploitir yr amgylchedd na phobloedd na gwledydd 'tlawd' y byd er cynnal cyfoeth gwledydd 'cyfoethog' y byd.

Ar y cyfan, lle tlawd yw dwyrain Caerdydd.

Rhaid bod y pensaer hwnnw wedi gwneud cryn arian wedi hynny ond yr oedd yn ddigon tlawd pan welais ef yn ei henaint am y tro cyntaf a'r olaf.

Un rhinwedd a ddisgwylid gan wr bonheddig oedd haelioni at y tlawd.

Ei henw hi oedd Catrin ferch George ac o Groesoswallt y deuai'n wreiddiol, yn ferch i rieni tlawd ond parchus, yn ôl Morgan.

Neu ai trwy gydweithio law yn lllaw i gyrraedd y nod o sicrhau yr addysg orau i bawb yn ein cymuned i bob plentyn yn y sir beth bynnag fo ei gefndir, tlawd, cyfoethog, y Cymraeg neu'r di-Gymraeg?

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Yn y flwyddyn hon hefyd yr ymddangosodd ei gerdd 'Y Tlawd Hwn' yn Y Llenor.

Ar y ffordd tu allan yr oedd rhyw bump neu chwech o blant tlawd, troednoeth yn chware 'i chalon ac yn chwerthin, ac yn cyfarch ei gilydd mewn Gwyddeleg, yn y ffordd fwyaf naturiol yn y byd.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Aeth Robin ymaith wedi cael gwledd i'w enaid tlawd, er nad oedd y stori i gyd wrth ei fodd; ond yr oedd ganddo stori i'w thaenu.

Ac yn ein byd bach tlawd ni roedd y dimeiau'n bwysig.

McColvin ar gyfer UNESCO yn sôn am anghenion llyfrau i wledydd tlawd y byd.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Ty Cendros.

Wrth ddisgrifio cyflwr ffermwyr tlawd yn yr Affrig neu Asia, wedi i flynyddoedd o lafur caled gael eu difetha trwy fympwy natur nad oes ganddynt ddim rheolaeth o gwbl drosto, gall rhestrau o ffigurau a disgrifiad byw gan un profiadol yn y maes fod o gymorth.

Fel plant y rhan fwyaf o deuluoedd tlawd yn y cyfnod hwn bu rhaid ­ Pamela fynd allan i weithio pan oedd yn ifanc iawn ond disgynnodd i gwmni drwg ac arweiniodd ei chydweithwyr hi'n fuan ar hyd eu ffyrdd nhw.

Ond lle tlawd oedd ein sgubor heno, ac arogl pydru ymhob man.

Y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei dro yn weithgar ar sawl ffrynt i feithrin "rhwydweithiau% rhwng gwahanol rannau o Ewrop yn enwedig rhwng y parthau tlawd a'r cyfoethog ac y mae nifer o raglenni ar gael i feithrin hynny.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.

Nid tlawd mohono ond dewisodd y ffordd fawr yn fywyd iddo ei hun.

Mae'r affwysol-dlawd a'r gweddol-dlawd a'r dosbarth canol i gyd yn cymysgu'n rhydd ar y platfform - wel, does fawr o ddewis - ond y tlawd yw'r garfan fwyaf niferus o lawer.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Tŷ Cendros.