Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tlodi

tlodi

O ystyried tlodi a diffyg adnoddau'r wlad, doedd dim disgwyl i'r RRC fedru mynd i'r afael â'r newyn ar ei ben ei hun.

Roedd llechen ar wal yr ysbyty yn cofnodi'r hyn a ddigwyddai ar y safle yn nyddiau'r tlodi mawr.

'Roedd tlodi enbyd ym Mhrydain o hyd ac 'roedd llawer o waith i'w wneud cyn y gellid taflu ymaith yr hen gadwyni a rhodio'n rhydd.

Er fod tlodi eithafol ymysg y bobl hyn, cafwyd croeso cynnes, ac o ddiddordeb arbennig i'r Cymry oedd gweld y prosiect dwyieithog ar waith mewn ysgolion.

Mi fues i mewn sawl sefyllfa, er enghraifft yn India a Bangladesh, pan oeddwn i'n gweld y tlodi a'r dioddefaint aruthrol oedd yno.

Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.

Os mai gormodedd yw nodwedd amlwg problem y gorllewin, tlodi a thŷf poplogaeth yw problem gyfatebol gweddill y byd.

Nid cyfnod Tomi a Nedw sydd yma chwaith- nid blynyddoedd y tlodi sur a'r crafu byw i deuluoedd mawr .

Dyma nhw'n ein gwahodd ni i mewn i'r eglwys a, hyd yn oed mewn ardal oedd yn uffern ar y ddaear yr adeiladau wedi'u difrodi, tlodi aruthrol - dyma ni'n camu i mewn i'r eglwys a dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi profi heddwch fel yna mewn lle fel yna erioed o'r blaen.

Nid oedd Symons yn teimlo mor ddig ynghylch tlodi cefn gwlad, er ei fod yn tynnu sylw ato.

Daeth Sera i ddeall mai dim ond tlodi af truenus a fedrau yrru pobl i ymadael â'r ynys euddwydiol honno i geisio bywyd newydd ym Mhrydain.

Fesul tipyn gorfodir i'r tenantiaid ddysgu'r wers greulon hon fel y suddant yn ddyfnach i gors ddiwaelod tlodi.

Mae tlodi wedi lladd pob hunan-barch ac urddas yn y dalaith hon.

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.

Cyfeiriodd yr adroddiad hwnnw at y tlodi, y cyflogau isel a'r diffyg cyfleoedd a nodweddai'r cymunedau.

Ac ar ben hynny, mae'r Gymraeg yn llythrennol yn dal i golli tir yn ei chymunedau yn sgîl polisïau tai a phenderfyniadau cynllunio, yn sgîl tlodi Cymru ac yn sgîl chwalfa holl effaith athroniaeth farchnad rydd y Llywodraeth Dorïaidd.

Ar un llaw, fe fydden nhw'n deyrngedau i arwriaeth cenhedloedd bychain yn wyneb tlodi, gormes a thrais; ar y llall, fe allen nhw greu darlun comig o griw di-brofiad ond gobeithiol yn ceisio rhedeg gwlad.

Ychydig o flynyddoedd ynghynt roedd newyn dieflig wedi achosi marwolaeth miloedd o Wyddelod, a'r tlodi a'r newyn yma a yrrodd eu cydwladwyr - merched, plant a dynion o bob oedran ar draws moroedd geirwon i geisio byd gwell.

Tynged cenedl heb lywodraeth, yw diweithdra, tlodi, diboblogi, ymfudo, malurio diwylliant, ac mewn rhyfeloedd gwaedir hi er nad oes a wnelont ddim oll â'i lles hi.

Ac er fod petha wedi gwella yng Nghymru fel ym mhobman, dydi tlodi ddim mor ddiarth i blant Cymru.

Yn yr adroddiad cyntaf hwnnw trawyd nodau y byddai adroddiadau diweddarach yn cydgordio â hwy: un oedd y ffaith - fel y gwelid pethau - nad tlodi oedd wrth wraidd y diffyg truenus yma o ysgolion neu gyfarpar.

Bwriai ei lach yn aml ar y 'siopau gwaith' nid yn unig am eu bod yn tlodi gweithwyr ond am eu bod yn eu cymell i ddiota ac felly yn caniata/ u i 'genllif meddwdod .

A dallt y tlodi?" "Rwyt ti'n iawn, wrth gwrs.

Hon oedd gwlad Evita Pero/ n, creulondeb y juntas milwrol, Rhyfel y Malvinas, chwyddiant blynyddol o filoedd y cant, tlodi a diweithdra.

Tlodi'n gwaethygu, 250,000 yn byw yn y wyrcws.