Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tlodion

tlodion

Ond ni allai hyd yn oed ei chydymdeimlad â'r tlodion ei chadw rhag mwynhau yn hir iawn.

Buwyd yn paratoi testunau a elwid Bibliae Pauperum (Beiblau'r Tlodion), sef crynodeb o lyfrau hanesyddol y Beibl; a cheir testun Cymraeg o'r fath a elwid Y Bibyl Ynghymraec er nad Beibl mohono yn ein hystyr ni.

A'r angen hwn a barodd i Charles deimlo fod yn rhaid wrth gynllun ymarferol i argraffu beiblau Cymraeg ar raddfa fawr a'u cynnig am bris rhesymol i'r tlodion.

Ond fe adawyd y tlodion ar ôl yn Jwda.

Roedd yn rhaid i wraig ffermwr, gwraig gweithiwr cyffredin neu un o'r tlodion weithio drwy'r amser.

Ni chyfyngir y drwg i'r tlodion.

Fe adawyd y tlodion ar ôl i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr.

Yr oedd cyflwr gresynus tlodion Llanfaches yn pwyso ar gydwybod y gweinidogion.

Cyhoeddai Cradoc fod gorthrymu'r tlodion yn un o'r pethau oedd yn cyffroi llid Duw yn union fel yr oedd Morgan Llwyd yn cyhoeddi barn ar eu gorthrymwyr, "Gwae chwi yr vchelwyr drwg ei siamplau, yn llusco y tlodion ar eich ôl i ddestryw.

Efallai, fel tlodion Jwda, y byddwn yn aredig, ond heb had i'w hau.

Ac yn fwy chwithig fyth, peth cyffredin iawn oedd i'r goresgynnwr ei weld ei hun fel cymwynaswr yn rhannu ei gyfoeth diwylliannol ei hunan â'r tlodion.

Rhoddir lle anrhydeddus i'r genhadaeth dramor a'r gofal sy'n cael ei gynnig i'r tlodion gan asiantaethau dyngarol a Christnogol fel Tearfund.

Gwir iddo lenwi swydd trethwr yn anrhydeddus iawn, ond gwyr y dylaf mai ychydig o gydymdeimlad sydd rhwng seryddiaeth a Threth y Tlodion, neu Gyngor Plwyf, er i'r seryddwr fod yn ysgrifennydd y Cyngor hwnnw am flynyddoedd.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Fel ninnau oll sydd ar ôl ym mywyd ein heglwysi: tlodion yn yr ysbryd ydym.

Price fod 'dysgu'r tlodion yn frwdfrydedd oes i Burgess', a daw hynny i'r amlwg yn Nhyddewi, fel yn Salisbury a Durham cyn hynny.

Afreal yw disgwyl i'r tlodion gynnal ein gormodaeth ni.

Yn ôl pob sôn, mae'r eglwys hon, sydd wedi ei lleoli yn un o ardaloedd tlotaf Caerdydd, yn rhoi mwy i'r tlodion na sawl eglwys arall mewn ardaloedd hynod o gyfoethog.