Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

toc

toc

"la, y fflachiadau," meddai'r arolygydd toc.

Toc byddai'n dod a'i wynt yn ei ddwrn a golwg wyllt arno.

Toc, agorwyd y drws gan blismon tew swta.

Toc, clywn ragor o leisiau, a sŵn traed, a drysau'n clepian.

Er mai am saith mae'r ffilmio i ddechrau y mae'r gynulleidfa o gant y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu toc wedi pump.

Mi ddywedaf wrthych toc beth oedd penderfyniad Hector.

Toc goleuodd ei wep a daeth gwên i chwarae ar ei fin.

'Tudur,' ebe Siân yn araf toc.

'Rydan ni'n gyfoethog, Siân!' gwaeddodd Tudur toc, wedi anghofio popeth am ginio a'r cerydd fyddai yn eu disgwyl yn y garafân.

Toc, meddai Henri yn araf deg fel pe bai arno ofn gofyn, "Jean Marcel, fedri di ganu?" "Fi?

Toc dechreuodd y car droi yn ei unfan gan wneud sŵn tebycach i awyren yn hwylio i godi nag i ddim arall, ac fel y sathrai JR ar y sbardun suddai'r cerbyd yn is ac yn is nes o'r diwedd iddo gloi yn ei unfan.

Toc dychwelodd Ifor â'r gwaith wedi ei orffan.

"Mi glywaist fi'n sôn, mae'n debyg," ebr efô, toc, "am fodryb y misus acw - Anti Lw, chwedi hitha?" "Do.

Toc daeth Ifan Gruffydd yn ei ôl, wedi cael cwmni'r postmon i fyny.

"Mi fydd raid i ni blannu reis toc ybn lle tatws." Roedd JR ar fin gwneud sylw am y tywydd ond aeth y ffarmwr rhagddo yn galonnog.

Toc cyn i Therosina gyrraedd, roedd dyn mewn siwt wen wedi gosod cyrn clustiau trwm am ei ben ac wedi gwasgu botymau ar banel bach yng nghornel yr ystafell.

Roedd Rhys wedi deall bod arian yn brin fyth oddi ar iddyn nhw symud a dod i fyw i'r tŷ yma, toc ar ôl i Mali'i chwaer fach gael ei geni.

Toc roedd yn crynu ac yn llithro ond cydiodd yn dynnach yn ei ffon fagl i gynnal ei bwysau wrth iddo wasgu ei law arall yn erbyn y graig.

Toc roedd paned o goffi yn barod a galwyd ar y llanc côt dyffl i lawr atynt.

Toc dyna'r dyn ieuanc yn rhoi gwawch uchel: 'Diolch, etc.' Ac ymhen ychydig neidiodd y ddynes ieuanc i fyny gan weiddi a churo ei dwylo a chicio'r sêt, nes daeth rhywrai i fynd â'r ddau aflonyddwr allan i ddod atynt eu hunain.

Toc oernadodd y cŵn, a deallwyd bod llwynog wedi ei godi.

Ac mae'n bosib y byddwch chwithau'n chwerthin toc, nid efo nhw, ond am eu pennau nhw.

Toc, clywn siffrwd traed yn tuthian ar draws y leino o'r tu ôl, ac yn sydyn dyma drywaniad yn serio drwy fy meingefn, ac ar yr un eiliad yn union y meddyg yn bloeddio 'Sori!' Rwy'n barnu mai honno oedd y boen corff fwyaf dirdynnol a brofais erioed.

.' Toc, fe beidiodd y sisialu rhyfedd o'r tu ôl, ac wele'r meddyg a'i stethosgop yn ochrgamu gan ymddangos o'r tu blaen imi.

Gyda'r ffilmio wedi ei drefnu i gychwyn am saith - yn unol a'r arfer Ariannaidd mae'n cychwyn yn brydlon toc cyn wyth.

Toc, ail ymunodd ei fyddin ag ef a phrysuro ar hyd yr heol i Aberhonddu.

Eirlys Edwards," meddai Emli Preis toc, fel petai hi am i bawb ar y prom glywed.

Toc, daethant at dŷ bwyta swnllyd ar gwr y dref.

dychwelsant toc gyda 'u darnau coed newydd, a gethin, chwarae teg iddo, wedi dod o hyd i un bron ar ffurf llong a 'i gyflwyno i ffred ffred mae honna fel llong ryfel, ebe wil wil barod?

Toc wedi'r egwyl methodd Josh Low gyfle gwych i dawelu'r dorf.

Cawsant waith mewn chwarel yno, ond symud toc i Sunderland i drwsio setts ar y stryd i'r Corporation.

Toc, mentrodd agor cil ei llygaid i edrych yn llechwraidd o'i hamgylch, gan ddisgwyl gweld rhywun yn camu o'r tywyllwch.

Ond hwyrach mai dychmygu mae Enoc." "Wel, mi gawn weld, toc.

Daethom yn gyfeillion mawr toc.

Toc, dyma nhw'n eu hôlau, a'r sach hefo nhw.

Mae yna stori am ddau Gymro llengar yn trafod ar faes Steddfod nofel gyntaf Robin Llywelyn toc wedi iddo ennill y Fedal Ryddiaith.

Boddwyd dau lanc o Wyddelwern toc ar ôl cinio, sef Roberts a Hughes.

Ond cofiodd toc fod ganddo job o waith i'w gwneud, a dyma fo'n meddwl chwarae ei gardyn gorau a dweud wnaeth o mewn llais oeraidd: 'Ond fo laddodd Huws Parsli, onide?