Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tocyn

tocyn

Bydd tocyn record punt i'r ateb agosaf.

Byddaf yn llogi hofrennydd i ollwng tocyn record i lawr y simdde yr wythnos nesaf.

Arhosai'r rhai yn y naill giw yn amyneddgar i brynu tocyn, ac yr oedd y rheini yn y ciw arall yn disgwyl cyfnewid eu tocynnau am rai o'r ychydig nwyddau oedd ar gael.

ymweliad a'r siop drin gwallt, tocyn record neu dusw o flodau.

Ystyriwn ei ganllawiau yn fympwyon hen ddyn, ac eto fe fu+m i'n ofalus iawn fy hunan - teithio gyda'r trên araf i Frankfurt, a dim ond wedyn, yn Frankfurt, codi tocyn awyren i Efrog Newydd, gan nodi a oedd unrhyw un a oedd yn y trên gyda fi yn codi'r un tocyn.

Chwilio am brisiau tocyn tren i Beijing - bwriadu mynd i fyny am Inner Mongolia dros wyliau Mai.

Calennig wyf yn mofyn, Dydd Calan, dechrau'r flwyddyn, A bendith fyth fo ar eich ty Os tycia i mi gael tocyn.

Roedd cynffon hanner milltir o hyd o bobol i'w gweld drwy'r drws allan - pob un yn awyddus i brynu tocyn ar gyfer y reslo, a phwy oedd yn gwerthu'r tocynnau ond y dyn ei hun!

Gall tocyn bws arbennig ddod â chryn lwc i'w ganlyn, fodd bynnag.

Dewch gyda ni i fyw ffantasïau'r Farchnad Fawr lle mae popeth yn 'nwydd' i'w brynu a'i werthu a'r dyfodol yn un loteri fawr o optimistiaeth hyrwyddol y tocyn hud.

Yn Llundain tua'r un cyfnod, y gred oedd fod tocyn a'r rhifau arno yn adio i saith yn arwydd o ddiwrnod lwcus iawn.

Dyna pryd mae pobl yn draddodiadol yn gwario lot o arian!' Un siom i Ankst yw cyn lleied o gasetiau sy'n cael eu gwerthu mewn dawnsfeydd; mae'n amlwg fod gwario pedair neu bum punt ar gase/ t ar ben tocyn ac arian cwrw yn ormod gan rai.

Os oedd y cyfanswm yn un-ar-hugain, roeddynt bob amser yn cadw'r tocyn hwnnw fel swyn lwcus.

Fe'i bwriadwyd fel rhan o brosiect uchelgeisiol amlgyfrwng i gydredeg â'r gyfres deledu ardderchog 'Tocyn Diwrnod'.

Yr oedd un ferfâd o dail yn gwneud tocyn cyfan, a'r cwbwl fyddai eisiau ei wneud ar ôl cyrraedd y cae efo'r llwyth fyddai cerdded pedwar ne bum cam a gofalu cadw'r rhes yn union, wedyn lympio'r ferfa a gadael un tocyn arall at y cyfanswm, ag ôl sgwar gwaelod y ferfa ar ei ben.

Mae cofnod yn y DDolen am blant ysgol Ponterwyd wedi bod am drip yn Harlech gan fwynhau tocyn ar y lawntiau yn y Castell.