Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

toddi

toddi

Y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i ddwad i wybod am siocled ac yr oedd o'n drît oedd yn toddi yng nghega rheini ymhell cyn i neb arall gael eu dwylo arno fo.

'Un na fase menyn yn toddi'n ei cheg hi.

Yr oedd yn un o liwiau, a'r rheini'n toddi i'w gilydd ac yn newid o hyd, yn union fel roedd ei ffurf yn newid.

Trowch nhw nes bod y plu'n toddi a bod yr hylif yn glir, wedyn arllwyswch yr hylif sebon i mewn i hanner bwceded o ddŵr oer.

Mae'r manylion fel petaent yn toddi yn y tarth, ond mae popeth yno.

'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.

Roedd ganddi dalcen cadarn a thrwyn hir main a gwelodd Llio ei gwefusau llawn yn toddi'n llinell i'w gwddf hir.

Cynhyrchir dur pan wresogir mwyn haearn mewn ffwrneisi enfawr; creir gwydr o dywod a dwymir hyd nes ei fod yn toddi.

Amlygir hyn yn y llun Y Chwarel lle mae'r arddull rydd i'w gweled yn effeithiol yn y ffordd y mae'r adeiladau yn toddi yn un i'w hamgylchfyd.

Mae rhoi'r amodau gorau i'r cyfieithwyr yn hollol angenrheidiol os am gael cyfieithu o safon uchel a chyfieithu sy'n toddi i'r cefndir yn naturiol.

Y mae ychydig o rai mathau o greigiau (megis calchfaen) yn toddi mewn dŵr, ac y mae afonydd yn toddi tir hefyd drwy broses a elwir yn gerydu.

Cofiaf fel y byddem yn plastro menyn ffarm yn dew hyd-ddynt ac yna'r siwgr yn toddi'n ddi-rwgnach yn y môr melyn.

Doeddan ni ddim wedi cael bwyd ers dyddia, a phan gododd yr haul a dechra toddi'r ceffyl, dyma fi'n tynnu bayonet a dechra torri'r cig oddi arno.

Nid yw'r or- adweithiol gyda'r mwyafrif o gyfansoddion ac, yn bennaf oll, dwr yw'r toddiant gorau un pan feddylir am yr amrywiaeth o gyfansoddion y gall eu toddi heb eu dadelfennu.