Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tomen

tomen

Un, dau, tri Greenhill oedd ein tai ni a rhifau saith, wyth a naw yn eu dilyn ymhen ychydig, ond yn y bwlch rhyngddyn nhw roedd tomen fawr o rwbel y cyfan a oedd yn weddill o rifau pedwar, pump a chwech.

Eto, roedd y profion mawr yn dal i ddod, ac yn erbyn Siecoslofacia ar ein tomen ein hunain oedd y cynta ohonynt.

Ond nid gwaith i un dyn oedd teilo tomen gyfan.

Teimlai Mam yn reit ddigalon ar ôl y ffiasgo amser swper a'r ffrae wedyn ac i'w chysuro'i hun aeth i nôl tomen o hen albwms lluniau i sbio drwyddynt.

Ar un cyfnod, hwn oedd y llyn mwyaf yn y rhan hon o Loegr, ond fe'i sychwyd i greu porfeydd, a gwelwyd tomen sbwriel yn lledaenu ar ran ohono.

I iard y cymerwyd ni, y tu ôl i un o strydoedd cefn Palembang, lle'r oedd tomen o hen haearn, a phob rhyw geriach.

Mae'n well gan lawer o bobl ddefnyddio porthiant planhigion naturiol a wneir trwy bydru gwastraff llysieuol, gweddillion bwyd a throiadau gwair mewn tomen gompost neu dail.

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.