Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tor

tor

Dwi ddim o blaid tor-cyfraith.

Mae tor-calon blynyddol y Prydeinwyr yn Wimbledon wedi dechraun gynnar eleni.

Wedir tor-calon o golli i Sir Gaerloyw yn rownd derfynol Cwpan Benson & Hedges ddydd Sadwrn, daeth newydd calonogol i Robert Croft ddoe.

'O'r cychwyn, parodrwydd aelodau'r Gymdeithas hon i gyflawni tor-cyfraith … a roddodd rym ac arddeliad i'w hymgyrchoedd.

Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu camdrin gartref neu'n dod o gartrefi lle mae tor-priodas neu broblemau moesol.

A dyna ydan ni'n ei wneud, a dwi'n gweld fod tor-cyfraith dan unrhyw amgylchiadau ddim yn dderbyniol.

Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn 'filitants' drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd.

Un o'r rhain oedd ysgol Bryncroes ym mhen draw Llyn a chau fu raid i'r ysgol honno er gwaethaf ymdrechion caled a gweithredu tor-cyfraith pan feddiannwyd yr ysgol a'i rhedeg yn wirfoddol.