Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

torfol

torfol

Efallai'n wir fod y nofel wedi tyfu o ran statws yn sgil datblygiad y cyfryngau torfol.

Trwy'r canrifoedd, bu llywodraethau'n amheus o gyfarfodydd dirgel ac o gynulliadau torfol.

Mae'r gystadleuaeth o du'r cyfryngau torfol yn fwy bygythiol.

Roedd hi'n amhosib ynysu'r wasg Gymreig, ac erbyn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr roedd dylanwadau torfol eraill yn ennill troedle.

Graffiti masnachol yw llawer o'r posteri sy'n addurno waliau yr ieuenctid yn bennaf ac mae rhai o bosteri mudiadau gwleidyddol Cymru yn enghreifftiau o graffiti gwleidyddol ar raddfa torfol.

Rydan ni wedi byw efo cysyniad o oes pan oedd papurau Cymraeg yn ddylanwad torfol, oes y Faner ddi-grant, ac oes pan oedd newyddiadurwyr a golygyddion Cymraeg yn baglu ar draws ei gilydd ar Faes Caernarfon.

Go brin bod y Gymdeithas yn haeddu'r disgrifiad o fod yn fudiad torfol ar unrhyw adeg yn ystod ei bodolaeth.

Ond wrth gwrs adlewyrchiad o wrthdaro cymdeithasol ac o gydbwysedd grym o fewn y gymdeithas honno ydi pob gwasg a phob cyfrwng torfol.