Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

toriad

toriad

Roedd Wrecsam yn llawer iawn gwell wedi'r toriad.

Ceir toriad effeithiol drachefn yn y goferu rhwng yr wythawd a'r chwechawd, ac y mae cynghanedd sain yn llinell gynta'r chechawd, yn nodweddiadol o'r math o dyndra persain a geir mewn llawer o'r sonedau hyn:

Cetyn oedd gan un o hogiau'r eroplêns ac o dro i dro, cawn olwg ar ddwy ferch y tonnau pan ddigwyddai toriad yn y cwmwl nicotinaidd.

Nid oes gwybodaeth fanwl pryd y gosodwyd i lawr derfynau'r plwyfi ond yn ddiamau fe fu nodweddion ffisegol y wlad fel afon a bryn, toriad y dŵr ynghyd â hen lwybrau dyn ac anifail gwyllt a dof yn help i benderfynu'r ffin.

Dydd Llun a ddaeth, ac yr oedd gweddi'r Person wedi ei hateb yr oedd y tywydd yn hyfryd a dymunol, ac yr oedd Harri wedi bod yn ei baratoi ei hun i'r ymgyrch er toriad y wawr.

'Ond cofio...cofio.' Mae'r toriad cysodol ar y llinell, ar ol 'cofio man,' yn bwrw'r ansoddair yn ol yn ogystal ag ymlaen at onomatopeia'r llinell wedyn ac eironi'r gair yn y cyd-destun galarus yn gynnil iawn.

Cyn toriad gwawr yr oedd dros 350 o swyddogion o Heddlu 'Cenedlaethol' Sbaen wedi meddiannu prif swyddfa a chanolfan gynhyrchu Egin yn Hernani (Gipuzkoa) a'i swyddfeydd rhanbarthol yn Irunea, Bilbo a Gasteiz.

Roedd yn rhaid rhybuddio ei gyfeillion, dod o hyd i'r llyfrau ac arwain y gŵr ifanc atynt, a hyn i gyd cyn toriad y wawr.

Unwaith mae'r drymiau wedi dechrau, anodd iawn yw medru rhoi diwedd arni hi cyn toriad y wawr.

Er y toriad dros yr haf, daw cyfle eto'n fuan i fyfyrio ar "y pethau hyn".

Bu lori%au'r Cyngor allan ers toriad gwawr yn graeanu'r priffyrdd ond nid oedd strydoedd cefn y dref ar eu rhestr o flaenoriaethau.

Bydd gan yr Artist hawl i doriad pryd bwyd awr o hyd ar ol pum awr o waith ac eithrio amser colur a bydd y Cynhyrchydd, yn ogystal, yn sicrhau fod yr Artist yn cael toriad te neu goffi chwarter awr ar ol tair awr o waith.