Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

traethawd

traethawd

Mae'n terfynu'r traethawd drwy son am Geiriog fel bardd gwladgarol: 'yr oedd yn nofio ar donau y llanw gwladgarol sydd yn cryfhau yng Nghymru bob dydd.'

Gwobrwywyd traethawd Dafydd Jenkins, Y Nofel: Datblygiad y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen , a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol 1946.

Ifor Parry am Diwinyddiaeth Karl Barth, traethawd a wobrwywyd ym 1948.

Dyfarnwyd y Fedal ym 1951 i R. Ifor Parry am Diwinyddiaeth Karl Barth , traethawd a wobrwywyd ym 1948.

Bryn Golau oedd ei gartref pan ysgrifennodd y traethawd ar y Diwygiad.

Yr adrannau yn y traethawd yn delio â'r Purdan a'r Offeren a gynhyrfodd dynion y mudiad a dychryn ei gefnogwyr fwyaf.

Byddai yno gystadleuthau o bob math yn cael eu gosod: ysgrifennu traethawd, darn o farddoniaeth, limerig, darllen darn o ryddiaith - "heb ei atalnodi%, darllen solffâ, cân werin ac adrodd "stori fer" a llawer o weithgareddau eraill.

Gwaith Cwrs Aseiniadau Traethawd Hir Profiad Ysgol

Yn ôl y Corff, yr oedd traethawd Edwards wedi cyfeiliorni mewn tri pheth, sef:

Wedyn, teirawr yn y pnawn i ysgrifennu traethawd.

Cafodd cyhoeddi'r Traethawd hwn effeithiau amlwg ar berthynas y Brifysgol â'r mudiad.

Ychydig cyn ei farw dechreuodd lunio traethawd ar athroniaeth naturiol - yr hyn a alwn ni heddiw yn ffiseg.

Dafydd Jones, Dremddu Fach oedd awdur y traethawd buddugol ar lên gwerin, hen arferion a thraddodiadau pobol y plwy yn wythdegau'r ddeunawfed ganrif.

Ymrestrodd amryw o wŷr amlwg yn y Brifysgol tu ôl i Newman, fel William Palmer, a fu'n llugoer ei deimladau tuag ato er pan gyhoeddwyd Remains Hurrell Froude, a Dr Pusey, a apeliodd am amser a chyfle i Newman gael ei amddiffyn ei hun, er nad oedd yn cytuno â rhai adrannau o'r Traethawd.

Eithr nid oes dim yn sathredig yn y traethawd cyhoeddedig.

Gwobrwywyd traethawd Dafydd Jenkins, Y Nofel: Datblygiad y Nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen, a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol 1946.

Yn y Traethawd dadleuai Newman nad oedd yr erthyglau, o'u dehongli'n gywir, yn wrth-Gatholig nac yn wrth-Babyddol.

Gosodwyd y brotest i fyny ar fyrddau hysbysebu'r colegau, er mwyn rhybuddio'r myfyrwyr rhag y Traethawd.

Gwnaeth Dafydd Jones, Dremddu gymwynas â'r ardal trwy gasglu a chrynhoi hen benillion, arferion a llên gwerin y fro mewn traethawd swmpus.

Ystyrid cyhoeddi'r Traethawd o hyn ymlaen gan awdurdodau'r Brifysgol fel symudiad pendant tuag at Eglwys Rufain, a daeth y mudiad fwyfwy dan amheuaeth, nid yn unig yn Rhydychen, ond hefyd yn y wlad yn gyffredinol.

Ymhen wythnos daeth penaethiaid y colegau at ei gilydd, ac heb aros am eglurhad gan yr awdur, cytunasant i gondemnio'r Traethawd a'i alw'n anonest.

Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, ymgofrestrodd yn Adran Addysg Coleg y Brifysgol a sefyll yr arholiadau rhagarweiniol ar gyfer MA Ar ôl pasio'r rheini, aeth rhagddo i baratoi traethawd MA ar "Yr Ysgol Sul o safbwynt Addysg Fodern" ond oherwydd y galwadau cynyddol ar ei amser ni chwblhaodd y gwaith.

Meddai awdur anhysbys o Ddinas Mawddwy mewn traethawd 'Adgofion Bore Oes', a sgrifennwyd rywdro yn y ganrif ddiwethaf: 'Yr oedd llawer o hen arferion darostyngol a fygent bob teimlad o rinwedd a moesoldeb ac a brofent yn felldith i'r ardaloedd yma.

Mae'r traethawd hefyd yn llawn o hen benillion, rhigymau a hwiangerddi, megis y canlynol: