Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trafferth

trafferth

Roedd gan yr arlywydd fwy ar ei blât na cheisio achub ei wlad; roedd ei briodas, hefyd, mewn trafferth.

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Gallwn weld, hyd yn oed mor fuan wedi ei chyfarfod, fod meddwl wastad yn mynd i beri trafferth iddi.

A defnyddiaf y gair 'trafferth' o fwriad, o achos nid bardd ydoedd o gwbl.

Iddynt hwy, nid oedd cael un plentyn arall i fynd gyda hwy i'r bwthyn yn ddim trafferth.

Chafodd Enlli a Guto Llew ddim trafferth i gyrraedd y maes parcio yng nghanol y dref.

"Mi awn ni i'r Sailing yn gynta a holi pwy 'di mistar y ....." Roedd Wil Pennog yn cael trafferth i ddarllen yr enw ar fow y cwch ac ni allai Jabas benderfynu ai twpdra ynteu'r cwrw oedd yn gyfrifol.

Ond all neb fod yn sicr o ganlyniad gêm gwpan, a chael a chael fu hi i Lanelli gyrraedd yr wyth ola, gan iddyn nhw gael trafferth mawr i ennill yn erbyn Rhymni ar y Parc Coffa.

`Rydyn ni mewn trafferth gyfeillion,' gwaeddodd Ivan ar ei ddau gi, Belka a Chernysh.

O dro i dro, byddem yn cael trafferth gyda'r gyrrwr bws a digwyddodd hyn ar y ffordd i Leeds un tro.

Roedded nhw wedi cael trafferth efo llygod y gaeaf cynt, a chawsai nythaid ohonynt wledd Nadolig flasus: degau o sanau gwlân.

Yma fe geir ochr aeddfetach i'r mynegiant yng ngherddoriaeth Chouchen, wrth iddynt gyfeirio at y ffaith nad yw pobl yn dueddol o gofio'r hyn a ddysgir mewn ysgolion a cholegau, ond eto i gyd yn cael dim trafferth hel atgofion am yr holl sothach a geir ar y teledu.

doeddwn i ddim eisiau trafferth gyda'r heddlu.

Hanes Heledd yn cael trafferth dygymod â bywyd wedi i'w mam ailbriodi.

Roedd yn cael peth trafferth efo'i galipr nes iddo gymryd rheolaeth o'r sefyllfa ei hun.

Wrth gwrs mae posib cymhwyso pob system bonws i gymryd pethau fel hyn i ystyriaeth; a dydw i ddim yn cael trafferth o gwbwl dygymod a'r syniad o dalu i athrawon am yr hyn maen nhw'n ei gyflawni - cyn belled bod y drefn yn medru mesur yn gywir werth eu gwaith a chymryd i ystyriaeth y cratiau mawr, anhwylus.

Mae Awstralia mewn trafferth yn eu hail fatiad yn y prawf ola yn erbyn Yr India yn Madras.

Fodd bynnag, braf gweld nad y Gymraeg yw'r unig iaith syn cael trafferth dygymod ar arfer Saesneg gwirion o gael dau air am yr un peth.

Mae'n arferiad gennyf roddi tair owns o'r halen Epsom mewn peint o ddwr claear i'r fuwch rhyw wythnos cyn ei hamod, gan fy mod yn meddwl ei bod yn well osgoi trafferth na'i gyweirio!

Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau defnyddiol ac fe fyddwn i'n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi) wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.

dydw i erioed wedi cael trafferth gyda'r heddlu, " meddai debra yn bendant.

Roedd PC Llong yn cael trafferth cael ei wynt ato ac ni allai godi gan fod sodlau uchel Nel yn hoelio'i glustiau tywysogaidd i'r pafin.

Nid y ni oedd yr unig rai i gael trafferth â'r gyrrwr yma.

Nid oedd f'ymateb y tro hwn lawn mor frwd a phan ddarllenais y llyfr gyntaf dros hanner can mlynedd yn ol, ac eto mae'r stoi'n dal yn un afaelgar, yr hanes am fab i grydd o bentref bach Llangernyw yn gadael ysgol yn ddeuddeg oed ac yn llwyddo i gyrraedd prifysgolion Glasgow a Rhydychen: Ar ol peth trafferth medrodd fy mrawd John a minnau berswadio Mam i adael inni gysgu yn y gwely ym mhen tywyll y gweithdy.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Ty Cendros.

Os wyf fi'n cael trafferth i ddod o hyd i gopi, beth am y llu pobl nad ydynt yn gyfarwydd â chwilio am bethau mewn llyfrgelloedd?

Bydd yr hen drigolion yn cofio cymaint ag wyth o lofeydd bychain yno'r adeg hyn a dim trafferth gan yr un i werthu'r cynnyrch.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Tŷ Cendros.

gyda llaw, ydych chi wedi cael trafferth gyda'r heddlu o'r blaen, yma yn sbaen neu gartref ym mhrydain?

Yn nhyb llawer, hwn yw'r mewnwr gorau yn y wlad, ond gorddweud yw hynny: gall amrywio'i chwarae cystal - rhedeg pasio a chicio, ac mai ei gic ef i'r gornel a barodd y trafferth i Gastell Nedd pan sgoriodd Andrew Morgan drydydd cais Llanelli.