Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trafferthus

trafferthus

Ymddengys mai'r dull lleiaf trafferthus i'r ysgolion gael gafael ar adnoddau yw drwy eu prynu yn lleol o lyfrwethwr.

Fodd bynnag mae un adran o'n garddio all fod yn fwy trafferthus nag arfer inni eleni yn ystod y tymor tyfu, pryfetach gelyniaethus a chlefydau.

Roedd e'n dyfalu beth yr oedden nhw'n feddwl amdano am fod golwg trafferthus neu ofidus ar wynebau pob un.

Treth ar y corff oedd ymgripian dros y grib olaf, weithiau ar fy mhenliniau, a'r haul yn ei anterth yn llosgi fy wyneb bob cam o'r esgyniad trafferthus.

Cychwyn trafferthus gafodd Lloegr yn eu gêm brawf yn erbyn Indiar Gorllewin yn Edgbaston.

Gyrfa addysgol ddigon trafferthus a hynod o debyg a gafodd Euros hefyd gan iddo orfod newid ysgol yn aml a cholli ysgol yn ysbeidiol, weithiau am gyfnodau hir.

Oherwydd hynny gallai ddeall a chyfarwyddo'r gŵr ieuanc a fyddai'n ymladd â themtasiynau ac amheuon; gallai gydymdeimlo â'r trafferthus a'r helbulus, cyd-ddwyn â'r anwybodus os byddai ynddo beth daioni, a chydgyfranogi o lawenydd a thristwch ysbrydol yr hen bobl brofiadol.