Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

traffig

traffig

Er mwyn hwyluso trefniadau a gostwng llif y traffig, trefnir bysiau gwasanaeth gwennol a fydd yn teithio, um bob tua pum munud, rhwng y ddwy ysgol a'r maes.

EFFEITHIAU: Yn fras, gellir rhannu effeithiau fel a ganlyn:- llai o lygredd a thagfeydd traffig, llai o alw am gerrig mâl, gwell ansawdd bywyd yng nghefn gwlad a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r amgylchedd drwy gynllunio teithiau cludiant cyhoeddus i hybu canolfannau ymwybyddiaeth o'r amgylchedd.

Ar ddydd golau, yn sŵn traffig a phobl a rhuthr fedrech chi mo'i chlywed, ond yn y tawelwch, roedd miwsig yr afon yn llithro dros y cerrig i'w glywed yn glir.

(Fel yr â LIWSI i mewn i'r ty, pylir y synau traffig i roi lle i'r synau tu mewn.

Bu'r traffig trwm drwy'r pentref, yn enwedig yn yr haf yn bryder mawr i'r trigolion, ac yn beryglus iawn lawer tro.

Oddi ar ei golofn, mae'r Ardalydd wedi troi ei gefn ar y dociau i edrych i fyny tros y traffig at borth ei gastell.

(c) Mesuriadau Rheoli Trafnidiaeth, Beddgelert CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir yn rhoddi manylion am fwriad y Cyngor Sir i gyflwyno gorchymyn traffig er gwella'r tagfeydd a rhwystrau a oedd yn bodoli ar rai strydoedd yn y pentref ac yn gofyn am sylwadau'r Cyngor hwn.

Awtomeiddir y diwydiant gyda'r ford mesur-a-pwyso a'r llinell gynhyrchu: 'Rhagor o fasgedi - row G', Dros nos gwelwn Tref yn magu asgwrn cefn a balchder personol yn ogystal a digywileidd-dra wrth dynnu sylw hafing y warden traffig (awdurdod) oddi wrth y lori gludo!

Mae hynny'n anodd i ni ei gredu heddiw mewn dyddiau pan yw cyplau ifanc nid yn unig yn cael cyfathrach rywiol - neu secs fel y bydda i'n i alw fo - ar ein teledu bob nos ond yn comowtio'n noeth ar rowndabowts hefyd gan beri pob math o dagfeydd traffig.

Cyflogi'r wardeiniaid traffig cyntaf.

Yn ôl Alun Jones, Cadeirydd y pwyllgor cae a phabell, trafnidiaeth a pharcio, y mae hyn eto yn gam i hwyluso llif y traffig i Glynllifon gan mai ond un fynedfa sydd i'r maes.

Rydw i'n cofio, y llynedd, cyrraedd a 'mhac ar fy nghefn yn Istanbwl (yr hen Constantinople roeddwn i wedi clywed cymaint o sôn amdani yn Ysgol Menofferen), a chael fy moiddro gan faint y traffig oedd yn mynd heibio.

Trywanwyd ef gan bob clic ar y cloc, ac wedyn yr oedd mewn artaith, y naill lygad ar y cloc a'r llall ar y lampau traffig.

Rydw i'n estyn y pethau o'r cefn efo un law a'u rhoi ar lin Bigw tra'n llywio'r car o'r garej yn ôl i lif y traffig.

Ac mi roeddwn i wedi ypsetio cymaint, mi es at ryw blisman oedd yn cyfeirio traffig ar gongl Pendis yn y fan yna, a dyma fi'n deud wrtho fo: "Maddeuwch i mi," medda fi.

"Er mwyn hepgor anhawsterau wrth i bobl dreulio amser yn chwilota yn eu pyrsiau am bres parcio a dal y traffig i fyny fe benderfynwyd peidio â chodi tâl parcio eleni,'' meddai.

I wneud yn siwr bod yr W^yl yn llwyddiant ymarferol mewn cyfeiriad arall y mae'r trefnwyr yn awyddus iawn i bawb sydd yn teithio i'r Eisteddfod ddilyn y cyfarwyddiadau traffig i Glynllifon yn ofalus iawn.