Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tramor

tramor

Gweddol rwydd fyddai ymestyn y model dechreuol i gynnwys sector y llywodraeth a sector masnach tramor yn ogystal â'r sectorau gwreiddiol, sef teuluoedd a chwmni%au.

Pan ydach chi mewn lle tramor a ddim yn deall, rydych chi jyst yn mynd ati i wneud eich gwaith.

Dim ond gwrando ar Mr Blair yn y gynulleidfa wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor, Robin Cook.

Cafodd gyfle i ddod i ganol y llwyfan ddydd Mawrth diwethaf pan gymerodd le Mr Hurd o flaen y Pwyllgor Dethol ar Faterion Tramor.

Dywedwyd wrthym bod dur tramor yn tandorri'r farchnad.

Fel llawer un ar ei ôl, er hynny, fentrodd Robinson ddim yn agos iawn at feysydd y frwydr ond roedd y datblygiad yn arwyddocaol ynddo'i hun - rhan o grefft newyddion tramor yw llwyddo i gael yr adroddiadau yn ôl at ddarllenydd neu wyliwr.

Dengys log manwl y capten y gwaith a gyflawnid o ddydd i ddydd ar ei bwrdd, a'r nwyddau a'r offer a roddwyd yn yr howld, yn cynnwys rhaffau, blociau, meini llif a sialc, a gyfnewidid am gynnyrch brodorion gwledydd tramor megis Mao%riaid Seland Newydd.

Yn hanes Russell hefyd, mae'n bosib' gweld elfen arall a ddatblygodd yn thema gref yn hanes gohebu tramor; y modd yr oedd personoliaeth y gohebydd ei hun yn dod yn bwysig a'r negesydd yn mynd yn rhan o'r stori.

Y syniad o'r prism gwydr lle mae ein hadroddiadau ni o wledydd tramor yn mynd trwy ryw lens Gymreig cyn cael eu darlledu.

Mae llywodraeth yr Ynysoedd Balearaidd (Mallorca, Menorca, Eivissa ac ynysoedd llai) yn hurio heddlu iaith i glirio rhai o 'ghettos' ieithyddol yr ynysoedd lle mae'r holl arwyddion mewn ieithoedd tramor.

Mi fyddan nhw'n pwysleisio fod gwerthiant dur i wledydd tramor wedi gostwng 10% yn ystod y misoedd diwetha - a hynny oherwydd bod gwerth y bunt yn rhy uchel.

Mae'n amlwg, felly, bod o leia' ddwy elfen yn ganolog wrth drafod gohebu tramor: yn gynta', natur y gohebydd ei hun; yn ail, y ffordd y mae'n cyflwyno'i neges.

Os na fedrwn ni heddiw hawlio'r un adnabyddiaeth gyfeillgar o gymeriadau'r Hen Destament, mae maniffesto taith Y Gohebydd yn crynhoi llawer o hanfodion crefft y gohebydd tramor.

Rhoddodd yr argraff - yn annheg efallai - fod un o weinidogion tramor gwledydd Prydain mor anymwybodol o sefyllfa'r bobl hyn ag yr oedd Marie Antoinette pan awgrymodd y dylai trigolion di-fara Paris fwyta cacennau.

Cymru yn fwy dibynnol ar gwmnïau tramor i greu gwaith, 130 o Ogledd America, 50 o'r Almaen a 40 o Siapan.

Mae gan y clwb draddodiad, ers bron 25 blynedd, o groesawu timau tramor.

Ar ddiwedd y Rhyfel crewyd nifer o sefydliadau cydwladol, er enghraifft, y Gronfa Ariannol Gydwladol a'r Banc Bydeang, gyda'r bwriad o osgoi'r ansicrwydd a'r amryfal chwyldroadau ym myd cyfnewid tramor.

Er gwaethaf hyn i gyd, roedd Mengistu yn llwyddo i roi'r argraff i ymwelwyr tramor ei fod yn foi iawn.

Mae anfon adroddiad adref o feysydd tramor heb yr hyn a elwir yn ddarn i gamera yn uchel ar restr pechodau marwol yr adran newyddion.

Braf cael gwahoddiad gan fod nifer o athrawon tramor mewn colegau eraill yn cael eu hanwybyddu.

Maen nhw'n pryderu fod cryfder y bunt yn ei gwneud hi'n anodd i werthu dur i wledydd tramor a bod eu dyfodol yn edrych yn ddu.

Ar ei orau, mae'n gallu rhoi blas mwy real o ddigwyddiadau nag y gall yr un gohebydd tramor proffesiynol ei roi; ar ei waetha', mae'n golygu fod pobl gyffredin yn cael eu trin fel arbenigwyr.

Yn cydredeg â'n hoffter ni o nwyddau tramor mae estroniaid y byd yn ffafrio eu cynnyrch eu hunain neu rai Japan.

Unwaith y sefydlwyd Lloegr fel cenedl-wladwriaeth, yr oedd hi'n anochel y byddai'i brenhinoedd yn meddiannu Cymru, yn rhannol, wrth gwrs, am fod brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn hoffi meddiannu llefydd, ond hefyd am y byddai Cymru yn fygythiad parhaus i Loegr, boed yn fygythiad uniongyrchol o du'r Cymry eu hunain neu o du gelynion tramor.

Fe ddywedodd cyfaill am un arall o'r gohebwyr tramor mawr, Nicholas Tomalin, ei fod yn `sgrifennu damhegion a gadael i eraill greu'r credo'.

Yn Ciwba y cefais fy mhrofiad cynta' o'r minder, y gwarchodwr hwnnw sy'n rhan anorfod o ffilmio mewn amryw o wledydd tramor.

Wedi i fand y dathlu ddistewi, diflannodd Menem i mewn i'r Casa Rosada i gyfarch yr holl lysgenhadon tramor yn y wlad.

Eto i gyd, prin yw'r cymorth o wledydd tramor.

'Roedd rhain wrth eu boddau - erioed wedi cael athrawon tramor o'r blaen.

Mae'n debyg mai amatur o'r enw Henry Crabb Robinson oedd y gohebydd tramor cynta' a'i yrfa yntau wedi ei chreu gan ryfel.

Os nad ydych chi, mae'n well i chi frysio oherwydd ymhen rhai wythnosau mi all fod yn rhy hwyr - yn enwedig ar gyfer gwyliau tramor.

Fel llawer i ohebydd tramor arall, roedd wedi digwydd cyrraedd gwlad ar adeg dyngedfennol.

Yn y cyfamser, roedd MasCanosa yn pwyso ar Gyngres yr Unol Daleithiau i'w gwneud hi'n anghyfreithlon i is-gwmnËau Americanaidd mewn gwledydd tramor fasnachu â Cuba.

Dedfrydwyd dau o bob tri yng Nghymru a Lloegr, a bron traean ohonynt yn Iwerddon, ynghyd â nifer fechan yn yr Alban ac mewn gwledydd tramor.

Eto i gyd, does dim digon o arian yn cael ei gyfrannu gan wledydd tramor.

Nid nepell o'r fan hon ar hyd yr arfordir y mae safle'r ymosodiad olaf a wnaed gan lu tramor ar dir y Deyrnas Unedig.

Es i weld un gwersyll ar yr un pryd â'r Gweinidog dros Ddatblygu Tramor, Lynda Chalker, (Y Farwnes Chalker erbyn hyn).

Er mwyn ceisio ennill arian tramor 'caled' - hynny yw, doleri y gellir eu defnyddio i fewnforio nwyddau - mae'r diwydiant twristiaeth yn cael ei ddatblygu ar frys, ac yn y ffordd iawn.

Mae'r garfan yng Nghaerdydd yn ymarfer, a bydd chwaraewr tramor newydd y clwb, y batiwr Jimmy Maher o Awstralia hefyd yn ymuno â nhw heddiw.

Fe fu rhyfeloedd yn allweddol o'r dechrau yn nhwf y wasg; fe fuon nhw'n fwy allweddol fyth yn hanes gohebu tramor.

Yr ail nodwedd yw hon: pan fydd incwm yn codi gwell gennym brynu nwyddau tramor na rhai'r wlad yma ac, yn ychwanegol at hyn, mae gwledydd eraill yn llai tueddol i brynu nwyddau Prydeinig.

Yn ei hanfod, yn ôl chwedloniaeth y byd newyddiadurol, busnes i'r gwledydd mawr, imperialaidd yw newyddion tramor.

Ar ôl dyddiau John Griffith, mae'n anodd gweld unrhyw draddodiad o ohebu tramor yn Gymraeg.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r ganrif ddilynol, collodd Ynys Môn ei label fel "y tir tramor peryglus rhwng glannau Mersi ac America% gan ddatblygu'n ganolfan forwrol bwysig.

Yn ystod ein plentyndod ni fyddai son y pryd hynny am wyliau tramor, ac ychydig, os dim, o arian poced a gaem.

Erbyn iddo gynyddu digon, fe lifodd y rhwydweithiau darlledu mawr i'r wlad a phan ddangoswyd eu lluniau, am y cyntaf wrth gwrs, fe roddwyd proc reit egr i weinidogion tramor y byd.

Cyffwrdd yr un pryd â'n calonnau ninnau i ennyn ysbryd cenhadol ynom, i'n cynysgaeddu â pharodrwydd i gynorthwyo'r gwaith mawr nid yn unig mewn gwledydd tramor, ond yn ein hardaloedd ninnau yng Nghymru, fel y bo'r gwaith yn ei gyfanrwydd yn ogoniant i'th enw, yn Iesu Grist.

Mae rhai o gymeriadau Llyfr Mawr y Plant wedi cael eu hanfarwoli ar deledu ers dyfodiad S4C ac mae Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch yn gyfarwydd i blant ledled y byd erbyn hyn trwy werthiant tramor y cyfresi.

Hyd yn oed heddiw, mae'r llinell rhwng gohebydd rhyfel a gohebydd tramor yn un denau iawn - yn unol â natur ddiffygiol newyddiaduraeth, dim ond pan fydd pethau wedi mynd yn wirioneddol ddrwg y bydd y byd yn cymryd diddordeb.

Ar un adeg, roedd hanner cant o wrthwynebwyr yn llochesi mewn llysgenadaethau tramor, ond doedd y nifer ddim yn ddigon i ysbarduno gwrthfryfel.

Mae'r Awdurdod wedi bod yn ceisio newid yr agwedd taw dim ond cwmnïau tramor sy'n cael help ganddyn nhw - a hynny yn ardal coridor llwyddiannus yr M4.

Dechrau ar gwrs arall- darlith oedd ar waith yr Adran, rhyw gawl aildwym o'r hyn a gawsom ym Matlock llynedd gydag ychydig o liw neu flas tramor wedi'i roi ynddo i'w wneud yn fwy llyncadwy.

Nawr gyda'r hawl undebol i ddefnyddio criwiau lleol, mae'n llawer haws ffilmio mewn gwledydd tramor.

Welais i erioed y fath ddarpariaeth gyflawn ac effeithiol ar gyfer newyddiadurwyr tramor.

Ond, er gwaetha'r cynlluniau datblygu, mae'r bobl hyn yn colli'r frwydr yn erbyn dirywiad y tir; does yna ddim digon o fuddsoddiad tramor.

I bobl na allent fewnforio bwydydd o wledydd tramor, amser pryderus oedd twll y gaeaf.

Ac yna, yn goron ar y gyfundrefn, bydd Senedd Ffederal i'r wlad yn gyfan, yn gyfrifol am bolisi tramor ac am bob agwedd ar fywyd cenedlaethol y wlad.

Mae'r Rwsiaid bellach yn ymwybodol iawn fod diffyg nwyddau yn y wlad o'i chymharu a gwledydd llewyrchus y gorllewin, ac o'r herwydd mae eu hagwedd tuag at ymwelwyr tramor yn atgoffa dyn weithiau o'r 'Cargo cults' ers talwm.

Ni welwyd unrhyw gerdyn yn eu plith a stamp tramor arno, gan i drefniadau'r sawl a arfaethasai fwrw'u gwyliau ym Majorca fynd i'r gwellt trwy fethiant alaethus y cwmni gwyliau.

Daeth perchenogi car (a charafa/ n hefyd!), mynd ar wyliau tramor, yfed gwin costus, bwyta mewn gwestai drud, a chael cartrefi moethus, yn rhan o fywyd llu mawr o bobl.