Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tras

tras

'Roedd y pwyslais ar hynafolrwydd yr iaith yn rhan o gred ehangach, sef y gred fod i'r Cymry dras anrhydeddus, gogoneddus yn wir, tras y gellid ei olrhain yn ol i hanes Brutus yn dianc o Gaerdroea; 'ni, kenedlaeth y Bryttaniaid o oruchel fonedd Troia', yng ngeiriau'r croniclwr Ifan Llwyd ap Dafydd.

Mae'n arwyddocaol fod Robert Jones, Rhos-lan, a Thomas Jones, Dinbych, yn olrhain tras y Methodistiaid yn ôl trwy'r Piwritaniaid.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Gan fod y llywodraeth ganolog yn Delhi Newydd mor bell oddi wrthynt ac mor esgeulus ohonynt mae llawero'r casiaid ifainc yn cefnogi'r mudiad sy'n hawlio anibyniaeth wleidyddol i'w pobol - pobol sy'n ymwybodol iawn o'u tras a'u traddodiadau hynafol.

Fe ellir egluro'r awydd hwn i ymffrostio yn eu tras ac yn eu harwyr, ac yn Arthur yn arbennig, yn nhermau seicoleg oesol y Cymry, fel ymateb cenedl fechan i'w thynged hanesyddol a thiriogaethol.

A thro ar ôl tro awgrymir bod rhyw arbenigrwydd rhyfeddol yn perthyn i deulu Lleifior, rhyw foneddigeiddrwydd, yn ystyr ehangaf y gair, sy'n amheuthun ac yn deillio o'u tras fel gwyr bonheddig cyfoethog ym Mhowys.

Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.

Byrdwn y gân ydy bod "hunaniaeth" yn bwysig inni gyd beth bynnag fo'n tras - yn enwedig os ydach chi'n Gymro.

Yn unol a'r egwyddor hon ceir Salesbury yn gyson yn arfer geirfa hynafol, yn rhoi'r flaenoriaeth i eiriau Lladin eu tras ac yn amrywio'i eirfa, ei ffurfiant a'i gystrawennau hyd eithaf adnoddau'r Gymraeg.