Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trawiadol

trawiadol

Hoff gennyf eiriau trawiadol Amig yn nrama Saunders Lewis Amlyn ac Amig am yr hyn yw ffydd: Rhodio fel un a wêl a gwybod nos y deillion Yw bywyd beunyddiol ffydd.

Prawf trawiadol o'i ddiddordeb yn yr ieuenctid, ac o'i ynni diorffwys, oedd ei waith yn lansio'r cylchgrawn, Gwybod: Llyfr y Bachgen a'r Eneth.

Dydi ras i ffilmio'r lluniau mwya' trawiadol o ysglyfaeth ddiniwed newyn ddim yn ras braf i'w gwylio.

Yr enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r rhwystr hwn yw'r rheini a dreuliodd oes yng Nghymru gan wrthod yn gyndyn gwneud unrhyw ymgais hyd yn oed i ynganu "Machynlleth" neu "Pwllheli% yn gywir.

Bu'n pendroni'n hir yn y siop ynglŷn â phrun i'w phrynu, y Viyella yn te'r un o'r Almaen, nad oedd cystal o ran ei brethyn ond a oedd yn fwy trawiadol ei thoriad.

Mae yma gofnod trawiadol o'r modd yr oedd gafael y wasg radicalaidd yn niwedd y ganrif ddiwethaf yn cael ei gweld fel bygythiad difrifol gan y dosbarth llywodraethol Prydeinig a hynny nid yn lleiaf am mai yn yr iaith Gymraeg yr oedd y wasg honno yn ei mynegi ei hun.

Dyna sydd ganddo yn y pennill trawiadol hwn o Golwg ar Deyrnas Crist:-

Yr oedd hynny'n fwy trawiadol o'i gyferbynu â'r hyn a oedd i ddigwydd cyn bo hir yn yr Undeb Sofietaidd ac yng ngwledydd Dwyrain Ewrob.

Awgrymodd y dyn camera y byddai'n ddarn mwy trawiadol pe bai modd gweld blaen gwn un o'r pedwar gwarchodwr arfog yr oedden ni wedi'u llogi cyn camu o'r awyren.

Yr oedd y Gymru y cyfrannodd y dynion hyn at ei bywyd yn mynd trwy gyfnewidiadau trawiadol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn ddiwydiannol.

A hyd yn oed pe cyfeiriem at ffigur llai trawiadol byth yn hanes ein llenythiaeth, Alun Cilie dyweder, ni feddyliem arddel y fath derminoleg byth bythoedd.

Un o'r elfennau mwayf trawiadol yng nghynhyrchiad George P.

Dydi adeilad presennol y Cynulliad Cenedlaethol ddim yr harddaf nar mwyaf trawiadol o'r adeiladau syddi yn y cyffiniau.

Ac y mae hyn yn creu gwahaniaeth trawiadol rhwng y Cymry Cymraeg eu hiaith a'u cymdogion uniaith.

Ond wedi dweud hynny, rhaid cyfaddef hefyd nad ydir Cynulliad ei hun wedi bod y peth mwyaf trawiadol yng Nghymru hyd yn hyn.

Ac at mynd a'ch croen ac eich blingo gyferbyn â to take everything you've got gellid ychwanegu y trawiadol - mynd a'r llefrith/llaeth o'ch te.

Mae'n debyg fod dadl begynol, ddu-a-gwyn fel un y 'Llythyr' yn fwy trawiadol nag un annogmatig W.

Credai Kate Roberts iddi roi gormod o bwyslais ar y diweddglo yn ei stori%au cynnar ac mae'n cyfaddef iddi roi'r 'gorau i dreio bod yn glyfar' a chwilio am ddiwedd trawiadol yn null O'Henry a'i debyg ar ôl darllen ysgrif Saunders Lewis yn Y Faner.

Sôn a wna'r Athro am eiriau a lefarwyd ychydig cyn hynny gan y diweddar Dr T Gwynn Jones, sef 'nad yr iaith a sieryd pobl sy'n bwysig ond yr hyn a feddyliant: gofalwch am y meddyliau, ac fe ofala'r iaith amdani ei hun.' Yna, meddai'r Athro, 'os goddefir imi gymhwyso'r geiriau mewn enghraifft, y mae'n well ganddo Sais yng Nghymru sy'n meddwl yn iawn na Chymro sy'n meddwl yn gam.' Hawdd credu i'r geiriau trawiadol hyn gael eu camddeall a'u camesbonio gan lawer y pryd hwnnw ac y byddai'n anodd gan nifer heleath o Gymry heddiw ddeall eu gwir arwyddocâd.

Dechreuai holl sesiynau'r žyl gyda chyfres o logos mewn du a gwyn trawiadol - y rhain yn cynrychioli'r noddwyr - a dechrau In Suburbia gan y Petties (The Pet Shop Boys i'r anghyfarwydd).

mae'r lluniau trawiadol o drist a welir ar y tudalennau sy'n dilyn yn darlunio eu sefyllfa enbydus.

Y peth trawiadol yw parodrwydd eiddgar y Llywodraeth i ymateb i'r cais.

Un peth trawiadol yw fod amryw o'r ymarferion darllen mwyaf elfennol wedi goroesi hyd yr ugeinfed ganrif a dyma oedd ein darllen Cymraeg cyntaf yn hanes llawer ohonom.

Mewn dull syml ond trawiadol, roedd cymeriadau'r straeon yn creu dihareb a fyddai'n aros yn y cof, a byddai'r ddihareb honno yn cael ei haddasu at eu byw bob dydd.

Ceir golygfeydd trawiadol o'r tir a'r môr, a cheir cipolwg ar hen feini o'r oesoedd cynnar, cestyll yr Oesoedd Canol, capeli a bythynnod gwyngalchog bychain.

Mae'n stori wreiddiol sy'n llawn digwyddiadau wedi eu gosod ar dudalennau lliwgar efo lluniau trawiadol.

Ac i Bantycelyn y peth trawiadol yw fod a wnelo dioddefaint Crist â ni a bod ei fuddugoliaeth Ef yn fuddugoliaeth i ninnau.

Yn naturiol, mi aethon ninnau yn y car i weld y lle ac yno y gwelais un o'r golygfeydd mwya' trawiadol.

Nodwedd fwyaf trawiadol yr adeilad yw'r brif fynedfa sydd â phortico talog yn cael ei gynnal gan chwe colofn Ionig o farmor Môn.

Nid yw hyn yn fwy trawiadol yn unman nag ar yr ochr ddwyreiniol, yn Emiriaeth Fujairah- yr unig Emiriaeth sydd ddim ar y Gwlff Arabaidd.