Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trawodd

trawodd

Trawodd blaen un o'r adenydd y llawr.

Trawodd ef sawl gwaith yn erbyn y wal a theimlai ei ddwylo'n tynhau am y gwddf main bob tro.

Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.

Yr esgidiau oedd yr unig bethau a'm trawodd i, y gwadnau crêp trwchus.

Trawodd y ddwy awyren yn erbyn ei gilydd.

Trawodd y belen y darian gyda'r un grym ag y byddai pêl-droed o gic go hegar wedi'i wneud.

Yr hyn a'm trawodd i (ar wahan i ambell i sgonsan!) o edrych ar y lluniau o ferched clodwiw y Dybyliw Ai yn bychanu Blair oedd y prinder wynebau ifanc yn y gynulleidfa.

Y peth a'm trawodd gyntaf am y Coleg oedd ei Gymreictod.

Nid ymatebodd Gareth, ac wedi taflu golwg sydyn ato, trawodd Adam ef unwaith eto cyn ymbalfalu am y llyw wrth i'r car sgrialu o amgylch cornel siarp yn y ffordd.

Trawodd y pen yn erbyn y wal eto ac eto ac eto.

Yn hyn a'm trawodd yn ddifyr o'i ddarllen oedd geiriau tafodiaith y gohebwyr wrth gyfrannu i'r papur.

Trawodd yr hen Glifton o ar ei frest, ac fe syrthiodd Joni i lawr.

Gan ddal yn dynn yn llyw'r car â'i law dde, trawodd Adam Gareth yn galed ar draws ei foch â'i law arall.

Trawodd un arall fi yn fy wyneb nes fy mod i bron â chrio, "Howld on, dyna ddigon," meddai llais o'm hôl.

"Ac yn y fan yma mae anrheg Monsieur Leblanc i'r gelyn." Trawodd Henri ei fys ar y map mor wyllt fel y bu bron iddo dorri twll yn y papur cras.