Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

traws

traws

Daeth â llawer o atgofion ac o straeon yn ôl i'r cof, a nifer o ddywediadau rhyfedd, a'r ffordd wahanol o edrych ar bethau ddaru mi ddod ar eu traws pan oeddwn yno.

Byddwch yn ofalus os ydych yn defnyddio peiriant â llafnau traws gan fod damweiniau pur echrydus wedi digwydd gyda rhai mathau ohonynt.

Yn ystod y cyfarfod daeth Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trevor Morris, i mewn ar ein traws, "I'm not interrupting you am I?

Ond eto er fy mod wedi meddwl yn siwr y deuwn ar eu traws yn y plas, doedd dim arwydd fod neb yn byw yno .

Y peiriant torri â'r llafnau, yn hytrach na'r un â llafnau traws, sy'n rhoi'r wyneb gorau.

Un peth a nodwedda cymdeithasau o'r fath yma yn Rhydychen ydyw mai rhai bron a thorri ar eu traws am gael lle yn aelodau yn unig a dderbynnir i mewn; felly ni cheir lawer o aelodau cloff anghyson eu hymweliad.

Mae'n wir fod rhai o'r credoau y daethom ar eu traws yn ymddangos yn ddigon diniwed, megis y gred gyffredin fod maes magnetig y ddaear yn peryglu iechyd pobl ar ddiwrnodau penodol ym mhob mis, a'i bod hi'n well peidio a gweithio'n rhy galed bryd hynny.

Nododd sawl athro bwyntiau canmoliaethus a manwl: ...wedi llwyddo dehongli `jargon' y CC mewn termau dealladwy a chlir.....`themau trawsgwricwlaidd', `deimensiynau traws- gwricwlaidd' a `cymwyseddau trawsgwricwlaidd' yn enwedig...; dyma un o'r pecynnau mwya ymarferol a defnyddiol a dderbyniwyd gan yr adran erioed...

Cofiais y geiriau a sgrifennodd ar gopi o gerdd arall, ar sgio traws gwlad, a gyflwynodd imi dros baned yng ngwesty Filli, ar ol imi ddarllen iddo fersiwn Gymraeg o'i gerdd i'r Verstancla: 'In buna algordanza a nos tramagl' (coffa da am ein cyfarfod).

A phwy ddaeth ar ein traws ond Ffransis y plisman.

Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl mai llwyddo wnaiff fy achos yn y diwedd, waeth beth fyddai'r profedigaethau a'r gorthrymderau y dof i, a'r rhai sy'n rhannu fy ngweledigaeth, ar eu traws ar y daith.

Dechreuasant ymddiheuro ond torrais ar eu traws a cherdded tuag atynt.

Ond torrodd Gethin ar eu traws yn ffyrnig.

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.