Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trawsnewid

trawsnewid

Posibilrwydd eithaf hyn fyddai trawsnewid y gwledydd sydd heddiw yn druenus o dlawd i fod yn fasnachwyr goludog y dyfodol.

Williams oedd y diwethaf i ddirmygu'r athrawiaethau ond Crist yn y galon sy'n goleuo'r deall ac yn trawsnewid bywyd dyn a'i wneud yn etifedd iachawdwriaeth.

Ar noson y trawsnewid o un hanner o'r flwyddyn i'r llall, yr oedd nerthoedd goruwch-naturiol yn cael tragwyddol heol, felly amser i gymryd gofal yn ogystal ag i lawenhau yn nyfodiad haf oedd Calan Mai.

a) cynnwys y sectorau preifat a gwirfoddol ynddi fel cydnabyddiaeth o'r trawsnewid sydd wedi digwydd wrth ystyried darparwyr gwasanaethau a fu'n draddodiadol o fewn y sector gyhoeddus, twf cyffredinol y sector breifat ac edwiniad cymharol y sector gyhoeddus, a mentrau ar y cyd rhwng sectorau.

Ac er y trawsnewid hwn ar yr ystyr, mai Duw ac nid y troseddwr sy'n aberthu, eto defnyddir yr hen dermau, offrwm, dyhuddiad, iawn, cymod, yn ogystal â thermau mwy penodol megis "dydd y cymod" neu'r "Pasg", a'r rhain oll â rhyw gyfoeth o ystyr ynddynt i bob Israeliad.

Rhai o'i gwendidau sylfaenol yw nad yw'n cynnwys y sector preifat sydd heddiw mor ddylanwadol ym mywydau pobl Cymru ac nad yw chwaith yn ystyried y chwyldro technolegol sydd wrthi yn trawsnewid holl ffurfiau cyfathrebu ac yn awtomeiddio gwasanaethau.

Rhaid trawsnewid y diwylliant sy'n cadw'r Gymraeg ar y cyrion a sefydlu'r Gymraeg yn elfen integredig o bob agwedd ar bolisi, gweinyddiaeth a gwasanaeth yng Nghymru.

Mae'n rhaid trawsnewid diwylliant dwyieithrwydd o fewn gwleidydda a llywodraethu os ydym am gael mwy na façade ddwyieithog i Adeilad y Cynulliad.

Yma'n union y mae trawsnewid sylfaenol yn digwydd.

Dangosodd yr astudiaethau hyn fel yr oedd tafodieithoedd yn ymrannu'n ardaloedd ffocol, canolfannau o ddylanwad ar gyfer lledu nodweddion ieithyddol ac ardaloedd trawsnewid rhagddynt, sef ardaloedd yn rhannu nodweddion dwy neu ragor o ardaloedd ffocol cyfagos.

Mae'r chwyldro mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn trawsnewid addysg disgyblion.

Maent yn trawsnewid o un peth i'r llall, yn amrywio eu llwybrau, a'r cyfan yn symud ar gyflymderau mor anferth fel na ellir byth wybod yn fanwl, er enghraifft, ymhle'n union y mae electron, dyweder, ar ei chylchdro.

Tydi sy'n gallu trawsnewid eu bywyd a rhoi ystyr a gwefr iddo.

Yn y pum mlynedd ar hugain diwethaf mae meysydd fel cyfathrebu, cyfrifiadureg, rheolaeth, electroneg traul, ac agweddau o feddygaeth, er enghraifft, wedi eu trawsnewid yn gyfan gwbl.