Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trechu

trechu

Yr Almaenwyr yn trechu'r Ffrancwyr a Phrydain ym Mons ac yn anfon eu milwyr yn ôl i gyfeiriad y Somme.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, y gwir ddewis yw rhwng ymateb yn gadarnhaol i'r newidadau hyn gan ddatblygu'r ysgolion mewn dulliau cyffrous newydd i ateb gofynion yr oes newydd neu i ymateb yn negyddol a chaniatau i'r 'problemau' ein trechu ni.

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

roedd hwn yn gyfle da i gymru ennill ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth gan gofio y gweir a gafodd yr alban gan y crysau duon ond gwaetha'r modd nid wyf yn gweld y tîm hwn yn eu trechu hyd yn oed ar y maes cenedlaethol ac nid yw'n rhoi bodlonrwydd o gwbl imi fod yn dweud hynny ar ddechrau blwyddyn.

Abertawe yn trechu'r Crysau Duon, y clwb cyntaf ym Mhrydain i wneud hynny.

Tim rygbi Cymru yn cael eu trechu'n ddrwg gan Lloegr a Ffrainc a chwestiynau yn cael eu gofyn am barhad y gystadleuaeth pum gwlad a dyfodol y timau Celtaidd.

Mi fuasem ni wedi llwyddo i'w trechu nhw a gwarchod ein holl eiddo." "Na," meddai un arall.

Yr Almaenwyr yn trechu'r Ffrancwyr a Phrydain ym Mons ac yn anfon eu milwyr yn ôl i gyfeiriad y Somme.

Neil Kinnock a ddywedodd yr wythnos diwethaf nad oes gan William Hague obaith yn y byd bod yn Brifweinidog - oherwydd ei fod on foel ac nad yw pobol foel byth yn trechu rhai gwalltog mewn etholiad.

Canlyniad trechu marchog y cae niwl yw tangnefeddu, hynny yw, cymodi, pawb ohonynt â'i gilydd.

Cymru'n trechu'r Crysau Duon o 3 i 0.

Gwynoro Jones o'r Blaid Lafur yn trechu Gwynfor Evans o dair pleidlais yn etholaeth Caerfyrddin.

Ond cafodd hyd i ramadeg Saesneg cyn gorffen trechu cyfrinion y gynghanedd, a math o ddisgybl yspâs arhosodd byth.

o ran hynny, pan fydd dynion yn sefyll dros eu hawliau, fydd dim rhaid iddynt guddio?" "Fedrwn ni'n dau ddim fforddio gwneud hynny, Elystan achos fyddai yna neb ar ôl i gynllwynio wedyn." Erbyn hyn 'roedd cwsg yn trechu Gwgon.

Cwmni Dr Helen Roberts, Y Felinheli, a gawsom ym mis Chwefror, ac yn ei ffordd naturiol aeth â ni yn ôl genedlaethau i ddisgrifio'r afiechydon a fodolai, gan olrhain y cynnydd a fu dros y blynyddoedd i'w trechu.

Mae eu dawnsio gwerin hefyd yn dangos olion o geisio trechu'r athreitus, fel maen nhw'n ei alw fo.

Cofiaf yn dda Wmffra, fy mrawd, yn hogyn tua deg oed, yn trechu pawb, hen ac ifanc, hefo'i stori fer.

Dafydd Wigley, Plaid Cymru, yn trechu Goronwy Roberts, Llafur, yng Nghaernarfon.

Mae Quintin Hann yn yr wyth olaf ar ôl trechu Gerard Greene o naw ffrâm i ddwy.