Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trefnwyd

trefnwyd

Yr oedd y ffordd y trefnwyd ymgyrch y Cyfamod yn gwahodd beirniadaeth o'r fath.

A blwyddyn yn ôl trefnwyd diwrnod yn y Ganolfan Gynadledda yn Llandudno iddyn nhw gael manylion am y cynllun.

Yno trefnwyd ymgyrch i ryddhau'r carcharorion eraill.

Trefnwyd y weithred gan ein haelodau yn Nyffryn Teifi.

Ond yn ol arfer yr amser trefnwyd iddi briodi tywysog arall gan ei thad.

Braidd yn anarferol ar achlysuron fel hyn, trefnwyd oedfa fore ar y dydd Mercher gyda D. J. Roberts (Aberteifi ar ôl hynny) yn cymryd y rhannau arweiniol ac Irfon Gwyn Jones, brawd y darpar-weinidog, yn traddodi'r Siars i'r Eglwys.

Trefnwyd gwasanaeth o addolad a diolchgarwch gan Gangen Amlwch o dan areiniad y Canon HE Griffiths, y Caplan, ac ef a draddododd yr anerchiad.

Mae'n amlwg nad oedd gan drigolion y cyfnod hwnnw lawer o ofn 'tywydd mawr' - trefnwyd i gynnal cyfres o Oedfaon Pregethu a gwahoddwyd pump o bregethwyr i wasanaethu.

Yn y diwedd llwyddodd i gael llythyr allan i'w ffrindiau yn Rhydychen gan ofyn iddynt drefnu 'coup' i gael gwared ar ei dad Trefnwyd a chyflawnwyd hynny yn fuan iawn, a dyna sut y daeth y Swltan Quaboos yn rheolwr.

Trefnwyd i John eu cyfarfod am dri o'r gloch yng ngorsaf y Fali.

Cymdeithas Hanes Trefnwyd gwibdaith i aelodau'r Gymdeithas Hanes, Maesteg i LanbedrpontSteffan i ymweld â'r Coleg.

Trefnwyd yr Eisteddfod gan Gwilym Roberts, Caerdydd.

Trefnwyd cwrs ar Reoli Diriant ar gyfer Mis Gorffennaf.

I nodi'r achlysur trefnwyd dau gig yn Y Cwps; Nos Wener Mai 31, Meic Stevens; Nos Sadwrn Mehefin 1, Geraint Lövgreen.

Trefnwyd cyfarfod ar frys rhwng yr ynadon, Capten Burrows, cynrychiolwyr y Pwyllgor Streic, a swyddogion Cwmni'r Great Western.

Trefnwyd gêm flynyddol rhyngom.

Trefnwyd oedfa i'w neilltuo i'w waith.

Trefnwyd pabell arddangos gan PDAG yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nyffryn Nantlle.

Trefnwyd y noson gan Mrs Dilys Richards a Mrs Mai Jones.

Trefnwyd yr oriel barhaol ar ffurf cylch daearyddol, gan fynd â'r ymwelydd ar daith o gwmpas yr ynys o Ynys Llanddwyn a Malltraeth hyd at Foelfre a Biwmares, ac yna ar hyd Afon Menai.

trefnwyd nifer o dreialon.

Oherwydd hynny trefnwyd imi gael mynd i 'Gapel Cymraeg' y ddinas agosaf.

Trefnwyd cyfres o 'gigs' Cymraeg yn cynnwys rhai o'n grwpiau roc mwyaf blaenllaw a nifer o nosweithiau gwerin i'r oedolion ifainc hyn!

Ond gan fod y gwesty hefyd yn fan cynhadledd Foslemaidd bwysig am gyfran o'r wythnos, trefnwyd i'r cyflenwad gael ei droi 'mlaen er cysur y mullahs a'u gwragedd a'u cynrychiolwyr.

Trefnwyd disgo i blant hyd ddeg oed gan y Cylch Chwarae Saesneg.

Trefnwyd deiseb o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw ac fe wnaeth bron bawb o'r ardal ei harwyddo.

Yn ogystal â chystadleuthau amrywiol, yn cynnwys dawnsio disgo a chanu roc, trefnwyd rhaglen lawn ar gyfer pafiliwn Mabirocion.

Trefnwyd i gael cyfarfodydd gweddi undebol i ymbil am ddiwygiad a dyma'r cyfeiriad cyntaf yn y fro at un o nodweddion amlycaf y paratoi ar gyfer y diwygiad hwn.

Trefnwyd y noson gan Sian Gwenllian, a dyledus yw'r pentref i ymdrechion y wraig dalentog yma am ei holl waith yn y gymdeithas leol.

Trefnwyd yr wylnos nos Fawrth gan fudiad Cymorth Merched Cymru sy'n rhedeg y lloches yn Llangefni.