Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

treuliau

treuliau

Gyda golwg ar sicrhau rheolaeth effeithiol ar y treuliau pasiwyd yn unfrydol nad oedd neb i ymgymryd ag unrhyw agwedd ar y gwaith ariannol heb ganiatâd y Pwyllgor Cyllid.

Rhannai Thomas Jones ei amser rhwng ei dyddyn yn ardal Ffair Rhos a'r pwll glo yn y 'Sowth' lle y treuliau gyfran o'r flwyddyn.

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

I hwyluso'r cysoni, gellir trefnu'r cyfrifon ariannol yn y fath fodd fel bod gwybodaeth ar gael sy'n ddefnyddiol wrth gymharu un set o lyfrau â'r llall; er enghraifft, gellir rhannu cyflogau yn y lejer yn gyflogau uniongyrchol a rhai anuniongyrchol, y cyfrif pryniannau yn nwyddau crai a nwyddau eraill, a'r treuliau yn rhai'r ffatri, y swyddfa, a'r adran farchnata.

Er mwyn cyfrif yr argost, y mae'n angenrheidiol gwneud amcangyfrif o'r treuliau anuniongyrchol ymlaen llaw, a phenderfynu hefyd ar gynllun neu sail i'w dosrannu.

Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi gosod y cyfrifoldeb o gadw llygad barcud ar y treuliau ar ysgwyddau'r Pwyllgor Cyllid.

A gadwyd y treuliau o fewn y terfynau a osodwyd?