Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

triniaeth

triniaeth

Aeth yn ei flaen i sôn am yr angen i baratoi Cymru ar gyfer hunan lywodraeth; siaradodd Fred Jones am yr angen i fynnu gwell triniaeth i'r iaith Gymraeg, a thraddododd Lewis Valentine ychydig eiriau am bwrpas ac amcanion y blaid.

Mae amheuaeth mawr ynglyn â ffitrwydd Robbie Savage sy'n parhau i gael triniaeth gan ei glwb.

Ar ôl cael triniaeth at ei alcoholiaeth trodd Stan yn ddyn busnes llwyddiannus a thrwy ei gysylltiadau gyda'r cynghorydd lleol, Herbert Gwyther, a Ieuan Griffiths ar ôl hynny, llwyddodd Stan i fod yn ddyn dylanwadol iawn.

Mae cyfnod Mark Taylor fel capten tîm rygbi Cymru wedi dod i ben gyda'r newydd y bydd yn derbyn triniaeth lawfeddygol i'w ben-glîn heddiw.

Ar y daith adref ar ôl chwarae ym Manceinion roedd yn draddodiad rhoi triniaeth arbennig i hogiau newydd y flwyddyn gyntaf Mae eli o'r enw 'Sloane's Liniment' i'w gael ar gyfer poenau yn y cyhyrau sy'n creu gwres mawr ar ba ran bynnag o'r corff y'i rhoddir.

O chwe miliwn o blant yn yr arolwg 'roedd angen triniaeth ddeintyddol ar eu hanner.

Rwy'n dy sicrhau y caiff dy feistr wybod pa mor gwrtais oedd eich triniaeth ohonom.

Bu raid i dri o aelodau tîm Libanus gael triniaeth am oerfel ar ôl eu gêm yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerloyw.

Cyferiwn at Mrs Lilwen Howard, West Park Dr, a Mrs Louisa Williams, gynt o Green Ave ond yn awr yn byw yn De Breos Dr Cludwyd Mrs Howard i gael triniaeth yn Ysbyty'r Brifysgol Caerdydd, a Mrs Williams i Ysbyty Tywysoges Cymru, Penybont.

Rwy'n annog pawb i fynd i gael eu harchwilio ac i dderbyn triniaeth os oes angen.

Bydd maswr Cymru, Neil Jenkins, yn cael triniaeth yn gynnar yr wythnos nesa ar fân-anaf i'w ben-glîn.

Dim ond chwe mis oed yw plentyn arall, sy'n derbyn triniaeth am pneumonia am y drydedd waith.

Ar ben hynny, mae yna sawl thema'n cael triniaeth eironig yn y llyfr ac, heb sbwylo'r peth, mae'r traddodiad o fynychu capel yn ei chael hi'n o ddrwg.

Bu'n cael profion ac mae'n debyg ei fod yn disgwyl triniaeth yn ystod y dyddiau nesaf yma.

Weithiau mae ganddyn nhw stori fawr pam y maen nhw'n haeddu triniaeth arbennig.

Pe gwaherddid yr arferiad hwn, byddai hyn ynddo'i hun yn lleihau costau triniaeth lawfeddygol yn sylweddol.

Mae'n bosib gweld y canser yma a chael triniaeth yn gynnar iawn.

Mae'n bosib y bydd capten Clwb Criced Morgannwg, Steve James, yn dychwelyd i'r tîm yfory ar ôl triniaeth i'w benglîn.

Mae Mrs Lily Evans o'r Waunfawr yn treulio ychydig amser gyda'i merch a'i mab ynghyfraith, Mr a Mrs Bryn Lloyd Jones, yng Nghwn Eithin, Lon y Meillion, ar ol cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd.

Mae gwraig 51 oed yn cael triniaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar ôl y ddamwain ar ffordd Llai.

Y claf cyntaf, Louis Washkansky, yn derbyn calon newydd mewn triniaeth gan y meddyg o De Affrica, Dr Christian Barnard.

Mae'r daten druan yn cael triniaeth ddifrifol gan ddiwydiant, yn cynnwys ei throchi mewn soda brwd ar gyfer ei phlicio.

Mae'n debyg bod y rheiny oedd angen triniaeth yn cael gwell sylw nag y bydden nhw fyth wedi ei gael gan feddygon eu gwlad eu hunain.

O ganlyniad i hyn, y mae tuedd ddiamheuol iddynt gynnig triniaethau llawfeddygol pan nad oes gwir angen amdanynt ac i roi triniaeth gymhleth a drudfawr pan fyddai un syml a rhad yn gwneud y tro'n iawn.

Bydd mewnwr rhyngwladol Llanelli, Simon Easterby, yn cael triniaeth i'w goes y bore yma.

Trychfilyn yw hwn sydd yn ymosod ar unigolion a chanddynt gyfundrefn imwn ddiffygiol, megis cleifion sy'n dioddef o lewcemia neu sydd wedi derbyn triniaeth sy'n gwahanu'r gyfundrefn imwn, er enghraifft, triniaeth â steroidau neu belydr-X.

Mae bachgen pedair oed a menyw sy'n gweithio yn y gegin yn Ysgol Fabanod Ynysboeth yn Abercynon yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Bydd ymosodwr Wrecsam, Lee Trundle, yn gweld arbenigwr heddiw i wybod a oes angen triniaeth ar ei goes.

Mae Mrs Jenkins yn gwella'n raddol ar ôl derbyn triniaeth lawfeddygol yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Mae Blake yn parhau i wella ar ôl triniaeth i'w figwrn.