Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trioedd

trioedd

Yn y Trioedd ceir awgrymiadau o wrthdaro rhwng y ddau, ond yn y Gogynfeirdd cyfeirir at Fedrawd fel patrwm o foes a dewrder.

Cytunwn yn llwyr â'r Dr Rachel Bromwich fod tystiolaeth y Trioedd hynny lle cyfeirir at Drystan yn hynod bwysig, ond rhaid cofio nad yw cyfeiriadau o'r fath o angenrheidrwydd yn datgelu gwybodaeth am fwy nag un episod neu elfen stori%ol: ni allwn gymryd yn ganiataol eu bod yn adlewyrchu gwybodaeth am chwedl go iawn.

Yn ôl Trioedd Ynys Prydein yr oedd plant Brychan Brycheiniog yn 'un or Tair Gwelygordd Saint Ynys Brydain'.

Ar wahân i Ystorya Trystan, sydd yn bryfoclyd o fyr ac yn anodd ei ddyddio, y cwbl sydd gennym yw'r cyfeiriadau yn y Trioedd a chan y beirdd, cyfeiriadau sydd, oherwydd eu cyd-destun, yn anorfod yn gwta iawn, er eu bod yn awgrymu fod stori fanylach y tu ôl iddynt, stori a fyddai'n gyfarwydd i'r bardd a'i gynulleidfa.