Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trist

trist

Trist nodi nad oedd ei weddw, Mrs Eluned Bebb nai'r chwaer Mrs Margaret Underhill yn medru bod yn bresennol.

Daeth y newydd trist y bore yma am farwolaeth un o gewri criced Lloegr, Colin Cowdrey, Roedd yn 67 oed.

Ni all neb anghofio'i brofiadau trist a llon, tawel a chynhyrfus, tra bo'r cof yn effro a'r gydwybod yn fyw.

Bu'r perthi a'r goedlan yn crynu er diwedd Chwefror gyda sgrech, chwiban a chrawcian, a gollyngwyd pob offer o law i wrando'r deryn du o'i gangen ar y pren ysgawen; ac yn y distawrwydd hwyrnosol, deuai nodau trist y gylfinir o'r ffridd uchaf drwy ffenestr ystafell fy ngwely.

Y peth trist yw fod cynifer o Gymry Cymraeg yn llyncu'r abwyd.

Trist meddwl fod arwynebedd y rhostir arbennig wedi ei gwtu%o efo coed, a chynllun adennill porfa yn lle mawnog o siglen, - cynefin y dylluan glustiog a'r cudyll bach yn prysur gilio ...

Ymhlith y straeon trist am drasiedi, camgymeriadau a gweld bai a ddilynodd y trychineb caed rhai arwrol iawn hefyd.

Yr un nodyn trist yw na fydd John Hartson na Nathan Blake ar gael i chwarae yn erbyn Armenia ar ôl i'r ddau dderbyn eu hail garden felen yn y y grwp.

Y peth trist ynglŷn ag anifeilaid meddwn i wrthyf fy hun, yw eu bod yn peri i ddyn fynd yn dduw bach sy'n pennu eu ffawd ac yn gwybod y gwaethaf cyn i hynny ddigwydd iddynt.

O fedru cymuno ag Ynys Afallon, yr ysgogiad ysbrydol goruwchnaturiol hwn sydd tu hwnt i ddelwedd, y geill pob Bedwyr trist a distaw yn hyn o fyd wynebu'r drin.

Biti bod yr hen wraig mor fusgrell, oedd sylw trist gwþr y pentref, wrth ddychmygu symudiad bysedd Morfudd dros eu cyrff hwythau.

Roedd ei Saesneg hi'n weddol ond drwy'r cyfieithydd y daethon ni i wybod ei hanes trist.

Marwolaeth Trist oedd clywed am farwolaeth sydyn John Lewis a fu ar staff llyfrgell Pencoed am flynyddoedd cyn ymddeol.

Maen arwydd eithaf trist on hamserau i gymaint o bobol ruthro i agor neges yn dweud hynny oddi wrth rywun cwbwl ddieithr.

Mae'r awdl hefyd yn creu darlun trist o'r dirwasgiad a ddaeth i ardal y chwareli llechi wedi i'r economi cenedlaethol wegian, a chau'r chwareli fesul un wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Peth trist yw gwylio coed yn marw.

Wel, y mae hyn oll yn ddigon gwir ac yn ddigon trist, ond pan ddown at yr Eingl-Gymry, fel y'u gelwir, er mwyn hwylustod yn unig, cofiwch, y mae'r sefyllfa ganwaith gwaeth.

Mwy trist na thristwch yn fy marn i yw colli cyswllt a iaith y gwyddoch mai hi yw eich priod iaith.

Er gwaethaf rhybuddion teulu a ffrindiau, myn Gwenan aros efo Dyfan ac mae'r diwedd trist yn anochel.

Roedd hanes trist y Ddeddf Iaith yn brawf pellach o'r modd y caiff Cymru a'i phobol eu trin gan lywodraeth estron.

basai'n beth trist, yn drychineb yn wir, tasai sgrifennu yn y dull realaidd o bryd i'w gilydd yn mynd yn infra dig.

Trist oedd clywed i Mrs Williams golli ei chwaer yn fuan ar ol symud.

Roedd tuedd ynddo bob amser i ddilyn pob trywydd trist.

Yn anffodus, mae ochr llawer mwy trist a pheryglus i ddefnydd dynoliaeth o'r môr.

Enwau'r traciau sydd ar Yr Eiliad Hon ydi Cân y Coleg, Hedfan Heb Adenydd, Pishyn Del, Y Ferch i Mi, Trist yw fy Stori a Nofio yn Erbyn y Lli.

Gŵr cyffredin, gonest, dewr - gyda'r gallu anghyffredin wrth adrodd ei hanes trist i wneud inni sylweddoli fod gobaith i ddynoliaeth, nid drwy gasineb, ond drwy Gariad.

Ac yn y rhyfel hwnnw, yn ystod y blynyddoedd trist cyntaf, fe ddaeth yn bryd i ddathlu hanner canmlwyddiant y capel.

Bu farw fy Nhad a Nadolig digon trist oedd y Nadolig cyntaf hwnnw ar ei ôl, yn enwedig i Mam.

Y trydydd dydd cyfododd Crist, I gyfiawnhau rhai euog trist; Ac esgyn wnaeth i'r orsedd fry, I ddadlu yno'n hachos ni.

Aeth BBC Radio Wales i bellteroedd byd i adrodd hanesion rhyngwladol o bwys yn After the Fighting Is Over, cafwyd rhaglen bwerus ynglyn âr straeon trist y tu ôl i'r penawdau yn Kosovo.

Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.

Trwy roi'r lluniau o ddioddefaint ac anobaith yn eu cyd-destun, llwyddodd y wasg i annog ymdeimlad o euogrwydd yn y byd gorllewinol a thrwy hynny gyfleu cyfrifoldeb y byd hwnnw tuag at yr wynebau trist oedd yn cyfarch y cynulleidfaoedd teledu rhyngwladol.

Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai rhieni ei gymryd yn ganiataol hyd yn oed yn dilyn digwyddiadau trist yr wythnos diwethaf.

Y diwrnod hwnnw, roedd sebon ar gael, ac ychydig o bast dannedd, ac, yn un gornel, roedd rhesi trist o offer sgi%o, heb fawr neb yn edrych arnyn nhw, heb sôn am feddwl prynu.