Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tristwch

tristwch

Ar y naill law nid oedd tristwch ymhell gan fod bechgyn yn cael eu gwysio i'r lluoedd arfog ac yn diflannu o'n mysg - rhai ohonynt am byth.

Ond os gadawn ni i foroedd gallu a chariad Duw olchi trosom a thrwom, gall y rhieni drawsnewid unrhyw sefyllfa a rhoi nerth arbennig i ni i gario ymlaen a brwydro, beth bynnag yw tristwch neu ddigalondid yr amgylchiadau.

Tristwch mawr ein heglwysi tros rannau helaeth o'r wlad yw eu bod wedi colli cysylltiad i'r fath raddau â'r genhedlaeth iau.

Aeth gweddill y pnawn heibio fel pob pnawn Llun arall, ac os oedd rhyw olwg drist ar wyneb eu hathrawes ni ddaeth i feddwl yr un plentyn mai o'u hachos hwy y tarddodd y tristwch hwnnw.

Felly, tristwch oherwydd afiechyd 'i mam gafodd y bai am y diffyg chwerthin, a'r hanner ofan yn y llyged a phethe felly.

Dichon y daw llawenydd annisgwyl i'n rhan; dichon y bydd tristwch du yn ein goddiweddyd.

Gwyddai o'r gorau fod y tristwch mawr a oedd yn ei oddiweddyd y dyddiau hyn yn bygwth troi Meg oddi wrtho, ond doedd ganddo ddim rheolaeth ar ei deimladau.

Tristwch mawr oedd clywed am ei farwolaeth ddisymwth.

Cangen Llanllechid: Mynegodd cynrychiolwyr Cangen Llanllechid eu tristwch wrth hysbysu'r pwyllgor rhanbarth fod y gangen am gau.

Tristwch yw gorfod cofnodi nad oes ond un o aelodau'r tîm yn fyw heddiw, sef Mr Tom E.

Ac fe ddwyseid y tristwch oherwydd imi fod, ar un adeg, yn un o brif edmygwyr Bara Caws.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, 'Mae'r ffigurau yn achos tristwch.

A'r tro nesaf y teimlwch, wrth ddarllen Kate Roberts, fod tristwch ambell un o'i stori%au byrion yn anghydweddus â'ch tymherau ifainc nwyfus chi, cofiwch fod yr awdures ardderchog hon, pan oedd hi ymhell dros ei phedwarugain oed, hithau yn gallu dweud ar nos Sadwrn ei bod hi'n fed-up.

Testun tosturi yn peri tristwch hyd boen yw gweld darn o wlad yn wynebu difodiant ei hiaith a dinistr ei diwylliant a thranc ei chymdeithas a'i harferion a'i ffordd o fyw.

Llanw'r nos dros erwau galar, Hoen a gobaith dan ei li, Ysbryd braw yn crwydro'r ddaear, Tristwch yn fy mynwes i...

Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.