Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

troedfedd

troedfedd

Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.

Yn wynebu'r drws roedd yna wely haearn sengl, ac fel roedd o a'i dad yn edrych fe gododd y gwely i fyny i'r awyr bedair troedfedd oddi ar y llawr.

Diolch byth bod yr hen roddwr hael yn cymryd ei dalu mewn darnau plastig meddyliaf wrth fy hun wrth ymuno â'r ffyliaid dyledus eraill sy'n llifo o gwmpas honglaid o warws a'i lond o deganau a rheiny res ar res o'r llawr i'r to ugain troedfedd a mwy uwch fy mhen.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr y grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Mae e'n gwlffyn o fachan, chwe troedfedd a chwe modfedd a thros ddeunaw stôn.

Suddodd Miguel Angel Martin ergyd anhygoel o ddeugain troedfedd ar y lawnt ola i fynd a'r gêm i dyllau ychwanegol yn erbyn David Frost.

Roedd llinyn pysgota dau gant saith deg troedfedd o hyd wedi cael ei glymu wrth y saeth - ac roedd ganddyn nhw ffrind ar ochr orllewinol y wal yn aros i'w helpu nhw i ddianc.

Syrthiodd ddeg troedfedd neu fwy a disgynodd ar ben creigiau caled.

Dyma'r adeg i blannu planhigion ysgewyll Brwsel yn yr ardd agored gan adael tair troedfedd rhwng pob planhigyn a'r un gofod rhwng y rhesi.

Roedd Gareth Lloyd yn chwech ar hugain oed, fodfedd yn fyr o'r chwe troedfedd traddodiadol, ond nid angenrheidiol, yr heddlu, du ei wallt ond golau, os nad gwelw, ei wynepryd.

Genwair ddeg troedfedd ffibr carbon, rîl yn cario lein nofio AFTM.

Yr adeg hon hefyd dechreuodd Gaunt ar y gwaith o suddo pwll wrth ochr y ffordd fawr i fynd at wythi%en y Gwscwm a chodi clawdd tua deg troedfedd o uchder a deunaw troedfedd o led, ar y gwaelod, i gario'r glo yn haws i'r harbwr.

Rhyw bump neu chwe troedfedd roeddynt yn ei dyllu mewn diwrnod, felly gwelwch mai gorchwyl go araf oedd hon.

Erbyn wyth o'r gloch fore trannoeth safai Menem, yn ei lawn daldra o bum troedfedd a phedair modfedd, wrth fynedfa Ty'r Llywodraeth, y Casa Rosada (y Ty Pinc).

Deg troedfedd yn unig oedd uchder y waliau, ac felly llifodd llawer i mewn am ddim.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Roedd hi'n gawres yn ymyl ei gŵr, yn ddynes gref, bum troedfedd a naw o daldra, yn llydan ei chorff ac o asgwrn cryf.

Rhaid oedd i'r llwybr hwn fod mor wastad â phosib i helpu'r ceffylau ac felly torwyd i lawr drwy'r graig mewn mannau ac ambell waith i ddyfnder o bymtheg troedfedd a mwy.

'Roedd 6000 o dai dan ddwr yng Nghaerdydd a phedair troedfedd o ddwr ar Barc yr Arfau.

Mae'n bum troedfedd dwy fodfedd o daldra, yn wyn a chanddo wallt golau.

Yno, dau can troedfedd uwch ei ben, roedd clogwyn.

Roedd e'n dalach na'r cyffredin, dipyn dros chwe troedfedd - ac yn tynnu ar 'i drigen.

Mi ddangosith Sam, Wil Pennog a Hulk pwy ydi pwy a be 'di be i'r Saeson 'ma!" Rholyn tew penfoel oedd Wil Pennog, a Hulk yn gawr chwe troedfedd.