Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trosglwyddo

trosglwyddo

Dyma sut y dychmygodd Stephen Spielberg yn ei ffilm Jurassic Park y gallai dinosoriaid gael eu hail-greu heddiw - drwy ddarganfod beth oedd y wybodaeth enetig yn eu DNA, ac yna trosglwyddo'r wybodaeth enetig yma i wy anifail arall.

Er mwyn cynnal newidiadau golygyddol angenrheidiol, mae'n hanfodol i'r rhaglen trosglwyddo FM gael ei hymestyn i Gymoedd De Cymru ar frys.

Bywyd y Cymry a ymfudodd i Benbedw ar dro'r ganrif a gyfleir yn I Hela Cnau Marion Eames - y fwyaf darllenadwy o'r holl nofelau hanes, a chan ei bod yn ymdrin a chyfnod y mae atgofion amdano wedi'u trosglwyddo'n deuluol i'r awdures, mae'n pontio rhwng y nofel hanes a'r nofel gyfoes.

Rhaid dylanwadu'n gadarnhaol ar eu hagweddau a'u defnydd o'r iaith o'r cyfnod cynharaf, i sicrhau y byddant hwythau'n trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant ac yn ei defnyddio fel iaith y teulu.

(a) Adroddiad y Prif Weithredwr mai un o amodau sefydlu'r uned oedd trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y storfa o'r Adran Dechnegol i'r Uned Gwasanaethau Uniongyrchol.

Er mwyn cynnal newidiadau golygyddol angenrheidiol, maen hanfodol i'r rhaglen trosglwyddo FM gael ei hymestyn i Gymoedd De Cymru ar frys.

Nid rhydd-ddeiliaid mohonom yn y byd ond tenantiaid a'n braint yw trosglwyddo'r stad yn iach i'r sawl a fydd yn ein dilyn yma.

Dylai staff Bwrdd yr laith gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad gan fod yn atebol i'r Cynulliad trwy'r Fforwm laith Ddemocrataidd.

Yn ystod y tair blynedd ar ddeg ddiwetha daeth mwy a mwy o Gymry i weld bod hyn yn ddifyg sylfaenol, a dyma ran fawr o'r esboniad am yr alwad y dyddiau hyn o blaid trosglwyddo cyfrifoldebau Ysgrifennydd Cymreig i Gynulliad Cymru.

Faint o Gymry Cymraeg sydd nid yn unig wedi gwerthu eu tai i Saeson ond sydd, hefyd, wedi gwerthu a bradychu'r Gymraeg wrth esgeuluso trosglwyddo'r etifeddiaeth Gymraeg i'w plant?

O safbwynt adeiladu a throsglwyddo ystadau yr oedd y gyfraith Seisnig yn amlwg yn fwy manteisiol na'r gyfraith Gymreig, ac o'r cychwyn cyntaf gwelir rhai Cymry nid yn unig yn ymwthio i rai o'r bwrdeistrefi ond hefyd yn mynnu'r hawl i ddal eu tiroedd a'u trosglwyddo yn ôl cyfraith Lloegr.

Gellir eu casglu, eu rhewi ac yna eu trosglwyddo i anifeiliaid eraill.

Y lluniau teledu byw cyntaf yn cael eu trosglwyddo ar draws yr Iwerydd drwy ddefnyddio'r lloeren 'Telstar'.

Ac meddai Cadeirydd Is-bwyllgor Cymru, Dilwen Phillips, 'Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn helpu i wella ffyrdd o fyw a gwella arferion bwyta ein haelodau ac y bydd rhai arferion da yn cael eu trosglwyddo i deuluoedd a ffrindiau'.

Yn un o siopau llyfrau Chapters ar gyrion Toronto, Canada, y mae dynes o fy mlaen trosglwyddo cryn hanner dwsin o lyfrau i'r ferch tu ôl i'r cownter a derbyn bwndel o arian yn ôl.

Dan y pennawd olaf hwn y bydd yr ieithydd yn ymdrin â chwestiynau dysgu ieithoedd, seicoleg iaith, cymdeithaseg iaith a pheirianneg gyfathrebu (trosglwyddo iaith trwy gyfrwng heblaw'r rhai arferol o siarad ac ysgrifennu).

os derbynnid galwad yng Nghanolfan Dolgellau wedi amser cau, gellid trosglwyddo'r alwad ar ei hunion i ganolfan gynghori arall oedd ar agor yng Ngwynedd.

Rhagor o ddatganoli wrth i fasnach a diwydiant gael eu trosglwyddo i ofal y Swyddfa Gymreig.

Yn y llythyr yn trosglwyddo aelodaeth a anfonwyd gan ysgrifennydd Eglwys Ebenezer, Llanelli at ysgrifennydd Rhydyceisiaid, at un o'r plant yn unig y cyfeirir, sef Euros.

Mewn termau amrwd, ac y mae gwleidyddiaeth yn fater amrwd weithiau, y mae ymreolaeth yn golygu trosglwyddo rheolaeth dros fantolen flynyddol o tua biliwn o bunnoedd; nid rhyw fanion pitw yr ydym yn eu ceisio!

Y mae gwyddoniaeth, meddai, yn dibynnu ar allu'r deall i roi trefn a dosbarth ar y deunydd crai y mae'r synhwyrau'n eu trosglwyddo i'r ymennydd.

Rhagwelid y byddai'r adeilad newydd yn barod ym mis Chwefror ac y byddai trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y storfa yn cymryd lle ym mis Mawrth.

Ar wahan i'r ffaith fod y Gymuned yn sôn yn wastadol am holl bobloedd Ewrop ac yn trosglwyddo adnoddau (yn raddol) i'r rhanbarthau tlotaf, pa sail sydd dros gredu y bydd yn debygol o greu polisiau a fedrai hyrwyddo symudiad at Ewrop y taleithau?

Ond ni fydd gwaith ar gael i bob un o'r ugain sy'n gweithio ym Mangor ar hyn o bryd am fod rhai o'r swyddi'n amhosib i'w trosglwyddo, meddai'r Awdurdod yr wythnos hon.

Mater gweddol syml fyddai trosglwyddo copi%au o ganllawiau polisi pob sefydliad i'r Bwrdd hefyd.

Yn wir byddem yn eich anog i fynd un cam ymhellach drwy fynnu fod y Ddeddf Addysg arfaethiedig i Gymru yn trosglwyddo i'r Cynulliad yr hawl i ddeddfwriaeth gynradd ym maes addysg.

Ar ôl trosglwyddo'r garreg i'r cychod a fyddai'n ei chludo daeth anffawd arall wrth i'r garreg gwympo i wely'r môr.

Yr unig ateb i'r cadwriaethwyr yn Affrica oedd dewis haid gyfan i'w difa, gan sicrhau nad oedd yr un creadur yn dal yn fyw rhag trosglwyddo'r dychryn i haid arall.

Doedd yna ddim tâl trosglwyddo wrth iddo adael clwb Everton.

Ond mae rhai pethau yn sefyll allan, a cheisiaf eu trosglwyddo i chwi.

Rydym wedi etifeddu credoau'r tadau yn gwbwl ddiarwybod i ni - a'r un mor ddiarwybod yn eu trosglwyddo i'n plant.

Yn wir byddem yn eich annog i fynd un cam ymhellach drwy fynnu Deddf Addysg i Gymru a fydd yn trosglwyddo i'r Cynulliad yr hawl i ddeddfwriaeth gynradd ym maes addysg.

Ymhlith y pynciau a drafodid yn y pamffledi hyn yr oedd dyfodol y diwydiant alcam, Deiseb yr Iaith, trosglwyddo gweithwyr o Gymru i Loegr, status Sir Fynwy, cynllunio trydan, silicosis, Cyngor Undebau Llafur i Gymru ac ad-drefnu wedi'r rhyfel.

Y mae Afon Conwy yn trosglwyddo miliynau o litrau o ddŵr i Fôr Iwerddon bob dydd.

Mae'n bosib ffrwythloni embryos yn y labordy cyn eu trosglwyddo.