Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trotian

trotian

I ffwrdd â mi i chwilio am blatfform un deg pedwar, yn cario cesys, a'm dau ges bach yn trotian yn tu ôl i mi, y ddau'n falch iawn o bobo rycsac ar eu cefnau yn cynnwys eu pyjamas ac ati.

Heriwyd un o'r bechgyn yn y meinciau i farchogaeth y ceffyl a oedd yn trotian yn ddestlus o gwmpas y cylch.

Clymwyd garddyrnau Dai Mandri a rhaffwyd ef wrth y camel olaf yn y rhes ac i ffwrdd â nhw ar frys, y camelod yn trotian a Dai hefyd yn gorfod tuthio yn anesmwyth tu ôl iddynt.

O, na, roedd milord yn trotian yn ôl a blaen i ymyl y dŵr efo'i fwced, yn tywallt ei llond i'r ffos ac yn methu'n lân â deall pam nad oedd y ffos yn llenwi.