Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

truan

truan

I'n cyndadau, fodd bynnag, roedd gosod esgid ar fwrdd yn anlwcus oherwydd fod y weithred yn eu hatgoffa o esgidiau am draed y truan oedd yn aros i'w grogi.

Wrth eirio'r arysgrif gwawdiai Pilat y genedl wrthnysig trwy sgrifennu'n foel fod y truan gwrthodedig yn 'Frenin yr Iddewon'.

Gofynnodd y Tywysog Bach iddo: 'Wyddoch chi sut i helpu fy rhosyn truan i, sy'n colli ei liw ac yn gwywo?' Dangosodd y Man Friday ei ddannedd mewn gwên fawr ac ateb: 'Mae'n rhaid i ti ei fwyta e'.

Neidiodd y truan ar ei draed a llefodd.

Yr oedd y truan yn wallgo.

Ac fe'i gwelais yn suddo hefyd ddwy flynedd yn ôl i fis Gorffennaf diwethaf." Ceisiais feddwl sut y gallwn i drechu ofnau'r truan.

Ac adnabum i ryw raddau bach yn yr awr honno, megis y profais eilwaith flynyddoedd yn ddiweddarach o dan law yr athronydd a'r seicolegydd, Dr David Phillips, (Coleg Diwinyddol y Bala) y cariad sy'n Dod at y truan ("Came where He was"), y cariad sy'n iachau'r meddwl oddi wrth chwerwedd ei bryder.