Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trwbadwraidd

trwbadwraidd

Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.

Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn bwysig wrth ystyried yr ateb i'r cwestiwn pa bryd y dechreuodd yr un canu ddylanwadu ar farddoniaeth Gymraeg - ond nid llai pwysig na hynny ydyw'r ateb i'r cwestiwn a allai effaith gyffelyb i effaith dylanwad y canu Trwbadwraidd fod wedi ei chynhyrchu gan ryw fudiad barddonol neu gymdeithasol arall.

Yng ngogledd Ffrainc (La France du Nord) y down o hyd gyntaf i farddoniaeth a gyfansoddwyd fel efelychiad ar y canu Trwbadwraidd eithr yn yr iaith frodorol.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.