Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trwch

trwch

Nid oedd gan y trwch ohonynt lawer o grap ar yr iaith Ladin; dim ond braidd ddigon i'w galluogi i fynd trwy'r gwasanaeth yn o drwsgl.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

"Watsia!" sgrechiodd wrth iddynt ddod o fewn trwch blewyn i fynd i mewn i'r car o'u blaen.

Yn wyneb y fath ansicrwydd ynghylch y dyfodol nid yw'n syndod fod rhai o'r eglwysi hynny sy wedi goroesi yn Rwsia yn dechrau denu addolwyr unwaith yn rhagor, yn ogystal ag ymwelwyr, er na ŵyr trwch y bobl fawr ddim am y ffydd Gristnogol.

Mae trwch yr eira - cymaint a hanner medr o ddyfn- der - yn rhwystro'r baeddod rhag crwydro'r wlad ac felly yn eu cyfyngu i un ardal arbennig.

Yn wir, nid oedd trwch y dyrfa'n ddynion rêl o gwbl ond yn hytrach gweithwyr o ddiwydiannau eraill a ddymunai ddangos eu hochr.

Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.

Newidiwch drwch y llinell trwy glicio ar y blwch trwch (!).

Ar y creigiau o'n blaenau gwelwch y bilidowcars a'r fulfran, yn sefyll fel milwyr ar wyliadwriaeth, yn barod i godi a gwibio o fewn trwch blewyn i'r ewyn ar sgwat am bryd blasus.

Gwelir ymhob un wlad debyg yr un ufudd-dod gwasaidd i'r wladwriaeth ymhlith trwch y bobl, a'r un annheyrngarwch cywilyddus i'r genedl sydd o dan ei phawen.

Nid yn unig y mae senedd y wlad honno wedi penderfynu yn ddemocrataidd nad yw hi eisiau i Tyson ddod yno i ymladd ond y mae gweinyddiad y wlad yn cytuno a'r papurau newydd yno yn groch yn erbyn yr ymweliad oherwydd mai barn trwch y boblogaeth, hyd y gallwn gasglu, yw na ddylai gael dod yno.

Yn wir, gellir gyrru llawer iawn mwy o wybodaeth i lawr ffibr optegol nag i lawr gwifren drydan o'r un trwch, ac y mae'r wybodaeth honno'n cyrraedd yn fwy diogel.

Ond, nid yw eira yn dda i ddim i yrrwr car nac ychwaith i ffermwr defaid pan ddaw pryder am golli žyn cynnar yng nghanol y trwch.

Etholwyd Llywodraeth Lafur yn 1945, gyda chymeradwyaeth trwch poblogaeth Cymru, a sefydlu'r wladwriaeth les a'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, yn creu sustem i gefnogi'r diwydiant amaeth, yn gwladoli nifer o ddiwydiannau – polisïau sy'n cael mesur helaeth o gefnogaeth, o leiaf tan y 1970au.

Undod y mae trwch etholwyr Ceredigion am ei weld yn llacio ac yn darfod.

Ac mae'r trwch o golur yn cuddio ymennydd chwim a chalon fawr.

I mi, nid barddoniaeth, ond rhigwm annealladwy oedd 'Senedd i Gymru', a rwdl-mi-ri nad oedd yn Gymraeg oedd 'i rawt cachaduriaid trwch / Cymru boluglot flotai.' Yr oedd 'Emma%ws' a 'Mabon' yn fwy astrus fyth, ac felly maent hyd heddiw.