Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trwm

trwm

Pan ddeuai'r glaw trwm yn yr haf, byddai'r afon yn gorlifo, gan orfodi cannoedd o deuluoedd i ffoi o'u cartrefi rhag y dwr a'r carthion.

Papur swmpus, yn golofnau trwm o dduwch heb lun i'w ysgafnhau.

Yn ffodus i'r ffermwyr hyn, mae eira trwm Sweden yn y gaeaf wedi bod o ryw help iddyn nhw i ddod o hyd i'r baeddod, ac felly yn rhoi cyfle iddyn nhw i'w dal neu eu lladd nhw.

Wedi plwc o gornio ar frest, dyma Doctor Jones yn cyhoeddi'i ddyfarniad, yn ei lais arferol y tro hwn: 'Ma' gynnoch chi annwyd trwm, Robin.

Pan oedd o ddeg i ddeuddeg ar hugain oed cafodd afiechyd trwm.

Rhoes y mewnlifiad trwm cyn ac yn fwy byth yn ystod y rhyfel bwysau llethol wrth gefn y broses Seisnigo yn yr ardaloedd diwydiannol, tra oedd y rhyfel ei hun yn dyfnhau Prydeindod y Cymry.

Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.

Daeth y sw^n eto, clec uchel fel pren yn torri o dan draed rhywbeth trwm.

Aeth Algis Geniusas â ni i fynwent uwchlaw'r hen ddinas yn Vilnius, heibio i'r tai ble'r oedd cŵn bach y drefn gomiwnyddol wedi arfer byw, i fyny y tu hwnt i'r fynwent swyddogol lle'r oedd pwysigion y sustem Sofietaidd yn gorwedd dan eu marmor trwm, draw i fryncyn bychan lle'r oedd cyrff y gwladgarwyr i gyd.

Ar “l glaw trwm y noson cynt roedd tipyn o lif yn yr afon.

Heb amheuaeth yr oedd y Gynhadledd wedi gosod baich trwm iawn ar ysgwyddau'r cefnogwyr i gyd.

Ond bocsiwr oedd Joe Erskine, a fyddai neb a ŵyr rywbeth am y bysnes yn debyg o amau nad y 'Jolting Joe' oedd y bocsiwr pwysau trwm medrusaf a fu yn y gwledydd 'ma erioed.

Bu'r traffig trwm drwy'r pentref, yn enwedig yn yr haf yn bryder mawr i'r trigolion, ac yn beryglus iawn lawer tro.

Tref ddychmygol yng nghymoedd De Cymru yw Bryncoed, rhywle rhwng gorffennol y diwydiant trwm a'r dyfodol electronig newydd.

Yr oedd Huw Huws yn bopeth gwrthwyneb i Anti Lw; yn smociwr trwm, yn fwytawr harti a di-lol, a gallai greu awyrgylch mewn amser, hwyrach mewn un noson, a yrrai'r foneddiges gymhenllyd honno ar ffo.

Toc cyn i Therosina gyrraedd, roedd dyn mewn siwt wen wedi gosod cyrn clustiau trwm am ei ben ac wedi gwasgu botymau ar banel bach yng nghornel yr ystafell.

Ar y bore Iau tyngedfennol, tua hanner awr wedi un-ar-ddeg y bore, roedd wedi clywed sŵn ergydion trwm yn dod o dy Ali - fel sŵn ergydion bwyell.

Gall y samplau roi gwybodaeth i ni ar faint a lleoliad y llygredd dynol sydd wedi ei greu, er enghraifft, ym Mae Lerpwl (ble mae llygredd wedi ei greu gan fetalau trwm, e.e.

Er gwaethai antics cyn, a wedir ornest yn erbyn Lou Savarese maen ymddangos bod gan Mike Tyson un cyfle ola i ennill pencampwriaeth pwysa trwm y byd.

Hynny, wrth gwrs, sydd wedi achosi'r tyrfe mewn rhai mannau, y gwlithlaw di-baid a'r glaw trwm iawn ar adegau.

Y Diwygiad Protestannaidd a'i bwys trwm ar awdurdod y Gair oedd yn bennaf gyfrifol am roi bywyd newydd yn yr athrawiaeth neu'r olwg hon ar hanes.

A daeth llonyddwch trwm i'r gegin a oedd funud yn gynt yn llawn sŵn symud traed a siarad.

Pan fydd hi'n law trwm mae'r ffyrdd hyn yn foroedd o fwd gan olygu nad yw'n bosib i na bws na char eu defnyddio ar adegau.

Mae hynny wrth gwrs yn anfantais ac yn wendid difrifol, yn arbennig felly ymhlith y bechgyn trwm.

Cysgai hwnnw yr un mor dawel â'i nain ond ni chynigiai llonyddwch trwm y naill na'r llall rithyn o gysur iddi.

pwysau trwm digamsyniol y lasgangen yn tynnu y ffordd yma a'r ffordd acw ...

annwyd trwm .

Gyda thrydan, bydd y cyflenwad yn gyrru gwefr cyson i'r batri i'w gadw'n iachus.Dylid prynu batri defnydd trwm ar gyfer cwch neu garafan, a gofalu cael clampiau modern i'w gysylltu yn hytrach na'r hen glipiau crocodil, sy'n gallu sbar- cio.

Neville Meade o Abertawe yn ennill pencampwriaeth paffio trwm Prydain.

Ar ôl noson hapus a ddiweddodd drwy i rywun ordro champagne i bawb, a gwely am ryw hanner awr wedi un y bore; yr oeddwn wedi syrthio i gwsg trwm.

Y miwsig metal trwm yn codi i lefel fyddarol.

Mae'r Teledu yn mwmian ymlaen yn undonog ac i fyny'r grisiau, yn y cefndir pell clywir curiad trwm cerddoriaeth Gari.) Mam!

A oedd hi yn llong dda yn rhedeg o flaen awel gyda môr trwm?

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

Syrthiodd Gwgon i gwsg trwm o'r diwedd ym mreichiau'r cawr gan chwyrnu cysgu fel ci bach boddhaus.

Tra gallai melinau eraill drafod tri dwsin o blatiau mewn twymad, gymaint ag a allai'r felin fawr eu trafod oedd rhyw ddau ddwsin o blatiau trwm ar y tro.

Cyn y gallwn iawn brisio'r dylanwadau hyn, ac yn arbennig dylanwad trwm yr academi neu'r coleg Cymreig, rhaid edrych yn fanylach ar eu safonau, eu hansawdd a'u cyrsiau.

Stwff trwm iawn.

Dychymyg a rhamant eraill roddodd fod i'r gred mai o wlith trwm bore o Fai yr epilient, ac eto credai eraill mai o flewyn hir cynffon ceffyl y deuent i'r byd.

Edrychai fel mynydd mawr, ei wallt fel brigau coed a'r un llygad yng nghanol ei dalcen fel olwyn cart; yn ei law daliai ordd anferth ac iddi flaen haearn, trwm.

Cafwyd dau ddyn trwm, Dr Lewis Probert a J.Bowen Jones, gweinidog y Plough, Aberhonddu.

Yr oedd hwn yn waith trwm a pheryglus, a Phil oedd yr unig un a allai godi'r allwedd fawr ar ei ben ei hun a'i rhoi am bin y standard.

Os mai llwyd ddu oedd lliw'r Ynys ac yn ymddangos yn fawr ei maint a hynny ar adeg machlud haul, bron yn ddieithriad byddai glaw trwm trannoeth.

Mae gwyddau Gþyl Fartin yn broffwydi'r gaeaf (eu plu yn drwchus yn arwydd o aeaf caled.) Glaw canol Tachwedd, barrug trwm ganol Ionawr.

Does ryfedd, o gofio'r gwaith trwm yma, nad oedd amser nac amynedd gan wragedd cyffredin y cyfnod i ysgrifennu llyfrau am fywyd gwraig yn ystod yr Oesoedd Canol.

Ar ddiwedd gwersi'r diwrnod hwnnw treuliais awr yn cerdded yn ol ac ymlaen yn cario sgis trwm - diwrnod o sgio - i chwilio am y cwpwrdd i'w cadw ynddo dros nos.

Roedd Wiliam Prichard yn ganwr o fri - a môr o lais ganddo, llais bâs trwm.

'Gwaedlif trwm ar yr ymennydd, mae'n debyg.

Yn ddisymwth daeth wyneb Betsan yn fyw unwaith eto o flaen ei lygaid, y rhychau melyn yn diferu â dþr Wnion, yr amrantau trwm yn cau allan y casineb a'r gwarth a'r crechwenu dieflig o'r chwmpas.

Fe fydd raid wrth ddyfal donc þ tonciau trwm a thonciau aml þ cyn y torrir ystyfnigrwydd a difrawder y drefn lywodraethol sydd ohoni y dyddiau hyn.

Mae cynorthwyon technolegol a chymorth personol ill dau yn fathau o gymorth - maen nhw'n rhoi i'r person anabl ffordd wahanol o wneud tasgau trwm sy'n cymryd amser.

Gyda llaw, mae digonedd o ddillad ysgafn ar y gwely, neu am y corff, yn fwy effeithiol na thrwch o ddillad trwm.

AR flaen ei draed y byddai wrthi o'r dechrau i'r diwedd, a dyma reswm diymwad arall pam na thaflai ergydion trwm a chael ei bwysau i gyd y tu ôl iddyn nhw.

Y prydau trwm llawn caloriau a gaiff eu bwyta yn hwyr yn y nos yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o roi pwysau ychwanegol ar eich corff, nid y bwyd y byddwch yn ei fwyta i frecwast, yn arbennig os byddwch yn dewis frawnfwydydd neu dost.

Ymuno unwaith eto â llong hwyliau fawr fel Ail Fêt a chael tywydd mawr ym Mae Biscay, a phan oedd yn gweithio ar y dec, llongwr oedd wrth ei ochr yn cael ei ysgubo i'r môr gan foryn trwm.

Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.

Wedi gwneud yn siw^r fod y pwysau ar y lein yn ddigon trwm i suddo'r abwyd rhoddodd Alun ei lein yn dw^r a gadael i'w wialen symud gyda'r lli.