Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

try

try

Y mae ganddynt sawl gwâl yma ac acw mewn cilfachau cysgodol ac fel y try'r gwynt newidiant hwythau wâl i gyfateb i hynny.

Yno try eu dial yn felltith arnynt hwy eu hunain.

Ar ei orau, try ei bregethu'n berfformiad esthetig ac ar ei waethaf yn ddiflastod amherthnasol.

Try'r fentr yn ddiwydiant proffesiynol, rhwng gweithgaredd June yn trefnu archebion dros y ffon gyda chwsmeriaid fel Mr Sainsbury, Dave yn dosbarthu'r cynnyrch gefn nos ar ei fotobeic, a Mona yn teipio'r cyfrifon.

Ceir cyfle i sylwi ar bob wyneb fel y try yn araf, araf tua'r drws.

Ni chais Hiraethog archwilio'r berthynas hon: try at bethau allanol hollol.

Wrth ymadael â'r Hafod Ganol try Hiraethog at deulu arall ac y mae hen bobl geidwadol yr Hafod Uchaf yn dechrau tyfu dan ei ddwylo.

Gan nad oedd rhan Arthur yn yr hanes yn anrhydeddus, try'r gwartheg yn sypynnau rhedyn y foment y dodir llaw arnynt gan Gai a Bedwyr.

Ef a'i dad yw'r ddau arwr, ac ar echel eu gwrthdaro cynnar hwy ill dau y try gweddill y nofel.

Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.

Oherwydd diffyg ffydd yr Eglwys yn ei grym nodweddiadol, try'r byd ei gefn arni, a cheisio gweithio allan weledigaeth yr Eglwys yn ei nerth ei hun ond methiant fydd hynny hefyd.

Iddo ef, roedd angen bod yn ymwybodol drwy'r amser o safbwyntiau ei ddarllenwyr Saesneg, gan gadw rhan ohono'i hun yn ddieithr i Gymru: `I think it is probably a mistake for any reporter to try to go completely native in any situation.' Os yw hynna'n wir, fe fydd newyddiadurwyr o Gymru'n gorfod cadw gwybodaeth a rhagdybiaethau eu gwylwyr, gwrandawyr neu ddarllenwyr yng nghefn eu meddwl.

Aethai'r Cymry i Iwerddon am ganrifoedd i geisio lloches a chymorth, ond try Manawydan at Loegr.

Wedi rhagymadroddi'n gyffredinol, try Jenkins ei olygon at lenorion unigol.

Dyma gynsail y datblygiadau diweddarach yn y ffilm: try'r gwylwyr goddefol yn y galeri ac yn yr awditoriwm sy'n eistedd yn ol ac yn gwylio pethau'n digwydd iddyn nhw yn weithwyr gweithredol.

Yn lle hynny try Hiraethog at ffocws newydd, sef hanes y garwriaeth rhwng Sgweiar ifanc y Plas a Margaret.

Yn eu breuddwyd try'r tyddyn yn ardd ffrwythlon.