Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trychfilyn

trychfilyn

Rhaid ei fod yn effeithio ar y celloedd yn y corff oedd yn gyfrifol am gynhyrchu gwrthgyrff i'r trychfilyn ei hun ac i drychfilod eraill, boed firws, bacteria neu ffwng.

Mae cylchred bywyd y trychfilyn parasitoid yn rhyfedd o syml.

Medr y trychfilyn fyw heb ddibynnu ar organeb arall.

Trychfilyn yw hwn sydd yn ymosod ar unigolion a chanddynt gyfundrefn imwn ddiffygiol, megis cleifion sy'n dioddef o lewcemia neu sydd wedi derbyn triniaeth sy'n gwahanu'r gyfundrefn imwn, er enghraifft, triniaeth â steroidau neu belydr-X.

Ar ôl dod o hyd i westeiwr addas bydd yn dodwy wy ar, yn, neu ger y trychfilyn gwesteiol.

Yn y mwyafrif o enghreifftiau trychfilyn arall yw'r organeb gwesteiol ac, yn wahanol i'r trychfilod parasitig y soniwyd amdanynt uchod, bydd larfae y trychfilod yma yn lladd y gwesteiwr.