Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trychinebus

trychinebus

Yn ogystal, rhyddhawyd arweinwyr rhyfel trychinebus y Malvinas.

Ochr yn ochr â hynny dechreuwyd ymwrthod â'r ddysgeidiaeth glasurol Gristionogol am effeithiau trychinebus pechod ar y bersonoliaeth ddynol.

Bid siŵr, buasai'r cyfryw briodoleddau yn fwy trychinebus i ferch efallai, medden nhw; ond hyd yn oed yn achos gwryw, nid ellid dychmygu ei fod ef yn debyg o ennill serch naturiol yr un gymhares addawol.

Mae tymor trychinebus cricedwyr Morgannwg yn parhau.

Gellid gwneud drama drawiadol o hanes teulu'r tenantiaid, gan ddewis un cyfnod argyfyngus a dangos cyfres o ddigwyddiadau trychinebus yn dod ar draws ei gilydd.

Yr un modd yn awr, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan fod amgylchiadau cyfoes yn milwra'n erbyn barhad o'r drefn bresennol o ysgolion gwledig ac, oni weithredir yn wahanol, y gallai llawer iawn ohonynt gau gyda chanlyniadau trychinebus i'r cymuedau y maent yn eu gwasanaethu.

Heb os, y prif reswm am gyflwr truenus yr economi yw'r gorwario a'r gorfenthyg yn ystod blynyddoedd trychinebus y llywodraethau milwrol.