Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trydydd

trydydd

Y rhan gyntaf yw'r AGORIAD, yr ail yw'r GEM GANOL a'r trydydd y TERFYNIAD.

Ar y llaw arall fe dorrodd Phil Price 70 am y trydydd diwrnod yn olynol efo rownd arbennig o dda - 68 - mewn gêm gyfartal efo Retief Goosen.

Sylwais y tro diwethaf y bu+m yn Jamaica fod sioc aflerwch a budreddi a sbwriel y Trydydd Byd yn gwisgo i ffwrdd yn gyflym dro ben.

Mae Abertawe, felly, trwodd fel yr ail dîm yn Grwp C y tu ôl i'r Barri a TNS trwodd fel y trydydd tîm gyda'r record orau yn y gystadleuaeth.

Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.

Nid oes dim o'i le mewn hau chwarter rhes o bys ac yna'r ail chwarter, y trydydd chwarter a'r chwarter olaf, gydag ysbeidiau rhwng bob heuad, os yw'r rhes yn hir.

Mae'r Trydydd Prawf rhwng De Affrica ac India'r Gorllewin wedi gorffen yn gyfartal.

Cododd Ipswich i'r trydydd safle yn yr Uwch Gynghrair drwy guro Bradford, y clwb sydd ar y gwaelod, 3 - 1.

(b) Y Trydydd Ban mewn "Cainc Driphlyg Fer".

Cerddi eraill: Dafydd Jones, Ffair Rhos, Prifardd coronog 1966, oedd yr ail, a Tom Parry-Jones oedd y trydydd.

Dywed y trydydd pennill 'trydydd chwarter canrif ni wêl dy gnawd'; a derbyn mai angau yw'r 'trydydd carchar ac osgo'i gysgod arnad', yna pa 'larwm', pa ragargoel a gawsai SL.

Cerddi eraill: Edgar Phillips oedd y trydydd i bob pwrpas, a Rolant o Fôn yn ail.

Mae'r trydydd yn ddyn tipyn yn hŷn na'i gyfeillion, ond er hynny y mae yr un mor gefnsyth ac urddasol.

Diolchais i Dduw am y ddau brofiad anghyffredin a gawswn, gan wybod na fyddai "ond unwaith prin i'w dyfod hwy." Daeth trydydd ymweliad gan golomen wen mewn breuddwyd neu weledigaeth.

Mae Lerpwl wedi codi i'r trydydd safle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl curo Coventry 4 - 1 ddoe.

Y trydydd casgliad o eiriau, ymadroddion ac idiomau o'r byd amaethyddol.

llyfrau, am yr ail neu'r trydydd tro weithiau, yn ystod ei hawr ginio wrth fwyta'r brechdanau y byddai ei mam yn eu gwneud iddi.

mae'r trydydd detholyn, Magnus Norman, drwodd i rownd derfynol Pencampwriaethau Tenis Agored Ffrainc yn Paris ar ôl curo Franco Squillari o dair set i ddim.

Ond ar glawr Y Golofn a argraffwyd bedair blynedd yn ddiweddarach, fe'n hysbysir mai hwn yw'r 'trydydd cynyg' o weithiau Gwilym Meudwy.

Mae Undeb Rygbi'r Alban wedi cadarnhau y byddan nhw, yn eu cyfarfod blynyddol fis nesa, yn trafod creu trydydd tîm proffesiynol yn yr Alban.

Dyheu'n ofer am ei atgyfodi fel yr oedd sydd yn y trydydd, ond ar ddechrau'r paragraff nesaf mae'r bardd fel petai'n derbyn fod y bedd wedi'i gau, ac wrth ystyried beth roedd Siôn yn ei olygu iddo mae'n ei fewnoli'n rhan ohono'i hun.

Diwrnod agor trydydd adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Dyma'r unig dro yn yr ugeinfed ganrif i'r un bardd ennill y Goron am y trydydd tro yn olynol.

Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.

Mi fyddai'r grym yn dal yn styc ar y top ac mi fyddai'r trydydd o'r tair carfan yna enwais i yn gynharach yn dal i drïo dyfalu lle aethon ni'n rong.

Maen nhw'n parhau yn y trydydd safle, ddau bwynt ar y blaen i Hartlepool.

Cawsom beint y tu allan i Cill Dara, ac un arall a chinio ym Mhort Laoise, ac fe stopiodd am y trydydd tro rhyw filltir neu ddwy y tu allan i Luimneach am ei fod angen, meddai ef, "To be ready in my mind to go through the traffic in the city." Ffarweliais ag ef yn y dref gan nad oedd o ddim yn mynd i gyfeiriad yr orsaf, ac fe gredwn nad oedd yn bell i gerdded yno beth bynnag.

Eto, mae deunydd sy'n cael ei ffilmio yn y Trydydd Byd parhau i fod yn nwydd digon prin nes iddo gwerth fel buddsoddiad.

Rhoddodd amlinelliad gwerthfawr iawn i ni o sut yr aeth y mudiad hwnnw - y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o'i gefnogwyr - ati i bwyso ar i'r llywodraeth ddileu dyled y trydydd byd.

'Roedd rhai yn mynychu am y tro cyntaf ac eraill yn dod yn ôl am yr ail neu'r trydydd tro.

Pan branciodd i ffwrdd y trydydd tro, rhedodd Louis a'r ddau gi arall ar ei ôl.

Mae sawl atgof hefyd nad dinas fodern Trydydd Bydaidd ddiurddas yw hi, ond prifddinas hen hen wareiddiad.

Ceisiwyd hefyd greu cronfa ariannol newydd a elwir y GEF (Global Environmental Facility) mewn ymgais i ffynonellu arian i'r Trydydd Byd gan fod cymaint o'n hadnoddau bywydegol yn y gwledydd tlawd.

Dafydd Jones, Ffair Rhos, Prifardd coronog 1966, oedd yr ail, a Tom Parry-Jones oedd y trydydd.

Ceir y trydydd grwp yn chwilio am le i atgenhedlu e.e.

Byddai'r person cyntaf i gyffwrdd y goron ar y fan bost yn gallu cael unrhyw ddymuniad a hoffai; gallai'r ail berson gael cusan ond câi'r trydydd person siom.

(ch) Y Trydydd Ban mewn 'Cainc Bedwarplyg Hir'.

Wrth imi gyrraedd trydydd llawr siop y fyddin yng nghanol y ddinas sylwais fod tua deg ar hugain o briefcases digon cyffredin yr olwg yn cael eu gosod yn daclus ar un o'r cownteri.

ni lwyddodd y brwdfrydedd a amlygwyd yn ystod y gynhadledd i barhau am yn hir yn ei ymchwydd ac i ddylanwadu ar drigolion prydain gan i louis napoleon bonaparte, tua deufis ar ôl y gynhadledd, ddymchwel gweriniaeth ffrainc drwy coup d' tat a gwneud ei hun yn ymherodr napoleon y trydydd.

Yno dywedodd TW Jones y byddai ef a'r ASau Cymreig yn parhau i ymladd yn lew "hyd at y Ffos olaf", sef trydydd darlleniad y mesur.

Cafwyd trydydd tymor llwyddiannus i'r gyfres o gyngherddau o gerddoriaeth fodern, NOW Hear This, gyda'r gynulleidfa'n dyblu.

Y bore yma yn Anfield mae'n frwydr rhwng Lerpwl a Leeds am y trydydd safle a'r prynhawn yma bydd Bradford - sydd ar y gwaelod - yn wynebu Charlton.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Sarnicol oedd y trydydd i bob pwrpas.

Ond mae ‘na gem bwysig arall i ddod, dydd Sadwrn, er mwyn sicrhau'r trydydd safle yn y cynghrair, a lle yng nghystadleuaeth pencampwyr y tymor nesaf.

Y Torïaid yn ennill eu trydydd etholiad cyffredinol o'r bron.

Down yn awr at y trydydd - Edmund Griffith.

Y tiwtoriaid oedd Chris Reynolds a Gwynfa Adam, a gofalwyd am weithgareddau'r trydydd grwp a threfniadau gweinyddol y cwrs gan y Swyddog Cyswllt.

Roedden nhw'n chwarae Chelsea yn yr Uwch-gynghrair ac fe orffennodd hi'n gyfartal 2 - 2, felly maen nhw'n dal i frwydro am y trydydd safle.

Yng ngeiriau un o asiantau'r Cenhedloedd Unedig, 'Mae arbenigwyr o'r farn mai'r system hon yw'r un fwyaf cywir o'i bath yn y Trydydd Byd.' Y broblem, dro ar ôl tro, oedd bod gweddill y byd yn gwrthod cymryd sylw digonol o'r rhybuddion.

Y trydydd oedd Dafydd Jones, Prifardd y Goron yn yr un Eisteddfod.

Rhoes Waldo deyrnged i'w dad yn 'Y Tangnefeddwyr' Mae Gwirionedd gyda 'nhad meddai yn y pennill olaf, ac yn y trydydd, Angel y cartrefi tlawd Rhoes i 'nhad y ddeuberl drud : Cennad dyn yw bod yn frawd, Golud Duw yw'r awel fyd.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Y Torïaid yn ennill eu trydydd etholiad cyffredinol o'r bron.

Beth am y trydydd math o gudyn silia sydd wedi ei drefnu mewn cylch?

FODD BYNNAG nad yw'r drwydded hon ddim yn mennu ar berchnogaeth unrhyw hawlfreintiau na hawliau eraill o eiddo trydydd partion yn y Gwaith a chydnebydd a chytuna'r Cynhyrchydd nad yw'r drwydded a roddir yn unol â'r cytundeb hwn ddim yn rhoddi na chynnwys nac yn honni rhoddi na chynnwys unrhyw drwydded na chaniatâd ar ran unrhyw berchennog hawlfraint nac unrhyw berchen hawliau eraill yn y Gwaith i ddefnyddio atgynhyrchu neu gorffori y Gwaith yn y Rhaglen na hawl na thrwydded na chaniatâd i ddosbarthu nac arddangos y Rhaglen.

Bydd talu Tal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y pedwerydd darllediad o fewn pedair wythnos i'r trydydd a bydd talu ail Dal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y chweched darllediad o fewn pedair wythnos i'r pumed.

Ac a wyddech chi mai Gradd Trydydd Dosbarth mewn Botani, o bopeth, ar ôl pipio ddwywaith, sydd gan Bennaeth yr Adran Moes ac Adloniant Dyrchafol a'i fod o'n hoff o godi'i fys bach, a'i wraig o, os gwelwch chi'n dda, yn drewi o ddyledion?

Y trydydd llyfr stori-a-llun yn y gyfres Daearyddiaeth i CA1 a 2.

Wedi'r cwbl, yn y pen draw ni all Cymru gystadlu gyda gwledydd Dwyrain Ewrop na'r Trydydd Byd ar sail llafur rhad.

Bu profiad arall, mae'n ymddangos, yn drech nag amynedd y rhadlonaf o gystadleuwyr ac yn ddigon i'w ddarbwyllo rhag herio ffawd am y trydydd tro.

Bryd hynny fe deirnles yn wirioneddol sicr fod y Cymro am gyrraedd y nod ar ddiwedd y trydydd cynnig wedi'r cyfan.

Mae Caerdydd yn parhau yn y trydydd safle, sef y safle isa ar gyfer esgyn.

Lerpwl yn erbyn Arsenal - ail dîm yn erbyn y trydydd yn yr Uwch-gynghrair, gogledd yn erbyn de, ac argoelion gêm i'w chofio.

Yng ngwledydd y Trydydd Byd mae'r cyferbyniad rhwng cyfoeth gwledydd y Gorllewin a thlodi'r De yn taro'r llygad dro ar ôl tro a pharhau o hyd y mae'r rhyfeddod o weld tystiolaeth ein ffordd wastraffus ni o fyw - can o Coke neu gar Mercedes wrth ochr pwmp dŵr cyntefig neu geffyl a chart.

Y trydydd diwrnod o sgio, roedd y llethrau'n brin o eira a'r rhew fel gwydr.

Erbyn trydydd rhifyn Tir Newydd mae'r 'golygyddol' yn sôn am gwyn nad oedd apêl cylchgrawn 'llenyddol yn unig yn ddigon eang.

A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.

Afraid yw dweud mai fi oedd y trydydd gan amlaf.

Mae Caerdydd, felly, yn parhau yn y trydydd safle.

Daeth dwy arddangosfa i Ganolfan Gelf Chapter, Caerdydd - 'In Fusion' gan artistiaid o'r trydydd byd sydd wedi ymsefydlu yn Ewrop, a 'Shock to the System', yn trafod themâu cymdeithasol a pholiticaidd mewn celf Brydeinig ddiweddar.

Y trydydd llyfr stori-a-llun yn y gyfres Daearyddiaeth i CA1 a CA2.

Edgar Phillips oedd y trydydd i bob pwrpas, a Rolant o Fôn yn ail.

Cyhoeddodd Academi Celfyddydau a Gwyddorau Darluniau Symudol America heddiw fod y ffilm 30 munud o hyd, Chwedlau Caergaint, wedi ei henwebu am Oscar - y trydydd tro i un o ffilmiau S4C dderbyn cydnabyddiaeth o'r fath.

Y testunau prawf a gynigir yw trydydd paragraff y bennod, yn enwedig yr ymadroddion 'Cariad at chwaer oedd yn Harri Tomos...

Dyma'r trydydd llyfr mewn cyfres o anturiaethau gan Tedi, ond y cyntaf i gyrraedd ty ni.

Nid wyf am raffu ystadegau yn y cyflwyniad hwn ond rhaid pwysleisio gymaint trymach yw gofynion Americanwr neu Ewropead am adnoddau'r byd na rhai brodorion y Trydydd Byd.

Thema'r gwasanaeth oedd 'Bywyd cyn Marwolaeth' ac roedd gan Mr Hughes ystadegau syfrdanol i ddangos sut mae'r Trydydd Byd yn cael ei ddefnyddio gan wledydd y Gorllewin i wneud elw afresymol o fawr iddynt hwy eu hunain.

'Roedd un ohonom yn gyrru, ac un yn dilyn y map, tra cysgai'r trydydd yng nghefn y car.

Y trydydd dydd cyfododd Crist, I gyfiawnhau rhai euog trist; Ac esgyn wnaeth i'r orsedd fry, I ddadlu yno'n hachos ni.

Efallai mai'r trydydd pwynt sy'n denu sylw fu llwyddiant y farchnad gwartheg stor, a hyn unwaith yn rhagor er gwaethaf prisiau gwael cig eidion.

Ar ôl i Loegr gau ei batiad ar 488 am wyth wiced yr oedd Pakistan wedi sgorio 119 am ddwy wiced erbyn diwedd trydydd diwrnod y gêm brawf yn Lahore.

Roedd y patrwm yn debyg iawn i chwyldroadau gwrth- imperialaidd y Trydydd Byd.

Bydd y trydydd prawf - a'r ola yn y gyfres - rhwng cricedwyr Sri Lanka a Lloegr yn dechrau yfory yn Colombo.

Yn yr Uwch-gynghrair ddoe, fe gurodd Leeds Bradford 6 - 0 wrth iddyn nhw geisio ennill y trydydd lle yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Ac mae trydydd achos wedi'i gofnodi yn ardal Awdurdod Iechyd Bro Taf.

Dyma ddadl gryf dros leihau y gwario ar arfau a defnyddio'r arian i ddibenion gwell megis cynorthwyo gwledydd y Trydydd Byd.

Pan ddaeth y trydydd darlleniad, fodd bynnag, cafwyd bod yr ASau Cymreig wedi cytuno a Mrs Bessie Braddock ac ASau Lerpwl nad oedd angen dadl.

Pan fuom yn ffilmio mewn ysgol feithrin yn Alamar, teimlais fod y gwario a'r adnoddau yn ormodol, os nad yn wastrafflyd, mewn gwlad sy'n perthyn yn swyddogol i'r Trydydd Byd.

Un ffarmwr, Oliver Walston, wedi agor cronfa o dan y teitl 'Send a Tonne to Africa', i gasglu miliwn o bunnau i ymladd y newyn cynyddol sy'n y Trydydd Byd.

Ychydig sydd i'w adrodd am y daith hon, fwy na finnau gafodd y trydydd tro yn gyrru - o tua tri o'r gloch ymlaen.

Hwn yw'r ail enwebiad yn olynol i S4C, yn dilyn Yr Enwog Ffred y llynedd, a'r trydydd o gofio am Hedd Wyn yn '94.

Roedden nhw'n chwarae Awstralia ddoe am y trydydd safle, ond fe gollon nhw 43 - 24.

O'r adeg pan ryddhawyd ef ar y trydydd dydd bu'r dyddiau canlynol yn fath o dir neb yn ei fywyd, yn daith ddiddychwelyd, yn ganu'n iach i un ffordd o fyw a throi i dderbyn cymdeithas newydd, un na fyddai'n wir aelod ohoni.

Fersiwn ‘accapella' ydi'r trydydd trac ac yma fe geir prawf pendant o'r ffaith nad peth hawdd yw rapio.

(Os daliai'r bêl roedd hynny'n ffafriol iawn.) Y trydydd pwynt oedd y safle a chwaraeai ar y maes rygbi.