Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trymion

trymion

Ond, er bod traddodiad diwydiannau trymion De Cymru yn cael sylw mawr, anwybyddir adeiladwyr llongau a llongwyr y Gogledd i raddau helaeth, sef y bobl a sicrhaodd gyfoeth i'r ardal ac a alluogodd i lawer o gapeli, ysgolion a cholegau'r rhanbarth gael eu hadeiladu.

Ond yr oedd ffenestri'r ysbyty wedi eu cau â sachau tywyll ac yr oedd llenni duon mawr trymion yn cau am bob ffenestr.

Yr hen ferfa fawr fyddai'n cario'r llwythi trymion i wneud y tocia mwyaf ym mhen y rhes bob tro.

Oherwydd mae'r ddelwedd hon yn siard cyfrolau am gyflwr presennol un o hen gymunedau'r glo drannoeth dyddiau llewyrch un o'r diwydiannau trymion cynhaliol.

Yr oedd gweithio ffwrnais yn llafur aruthrol, oblegid golygai drin platiau trymion a gwynias gyda gefail hir.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dþr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Bol buwch ddu go golledig oedd ymddeoliad y ser a'r lleuad dan gymylau trymion y gaeaf hwn ar ei egraf.

Symudodd un o'r llenni trymion rhyw fodfedd o'r neilltu er mwyn cael gweld yr ymwelydd yn cerdded oddi yno a'i gynffon rhwng ei goesau.

Ar waelod y domen mae'r adar mân fel y robin a'r telor, ond mae rheiny yn gallu osgoi bygythion yr adar trymion wrth gymryd eu siâr o berfeddion y llwyn.

Dichon mai ym mhlith y rhain y dylid gosod y rhai trymion, y rhai nad yw llyfr otograff iddynt ddim i'w gymryd yn ysgafn.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

Roedd hwn yn ateb dibenion y fasnach yn well gyda doc mewnol a gatiau trymion i gronni'r dŵr fel bod llong yn medru cael ei llwytho beth bynnag oedd stad y llanw a'r offer diweddaraf i hwyluso'r gwaith o drafod a llwytho'r llongau.

Efallai eu bod wedi cael digon o'r trethi trymion sy'n talu am y rhyfel hwn.

Peidiodd Y Rhondda a bod yn gwm diwydiannol a rhannodd gydag ardaloedd tebyg y cyfnewidiadau ysgytiol a ddilynodd gwymp yr hen ddiwydiannau trymion - glo, dur a llechi.