Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tudalennau

tudalennau

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Er mwyn gweld pa anifail sy'n cuddio, mae'n rhaid llithro rhannau o'r tudalennau cadarn i un ochr.

gallaf eich clywed yn ei ddweud: dyma chi'n dychwelyd i'r testun o raddio, a buoch wrthi rai misoedd yn ôl ar y tudalennau hyn mewn cyfres o dair ysgrif yn trafod yr union destun hwnnw.

Mae Lyn Ebenzer, wrth addasu'r ddrama deledu a gyd- sgrifennodd gyda Sion Eirian, wedi llunio stori slic a gafaelgar, ac mi roedd troi'r tudalennau i mi yn angenrhaid.

Mae'r Grwp am ddod â newyddion am frwydrau pobloedd, mudiadau a ieithoedd eraill i dudalennau'r Tafod. Os oes gennwch chi newyddion i'w cyfrannu at y tudalennau – gorau'n byd.

Yn y tudalennau a ganlyn, rhoddir manylion dethol am ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pob pwnc er mwyn amlygu pwyntiau penodol yn y canllaw.

Mae'n rhaid i'r adroddiad a ysgrifennir gan arolygwyr arbenigol ar bynciau unigol roi ystyriaeth i'r canllawiau a gynigir yn y tudalennau a ganlyn, ac mae'n rhaid mynegi barn yn glir ynghylch safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu ac ansawdd yr addysgu.

Llew o gael rhyddhad oedd mynd ati i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol a hefyd addasu chwedlau gwerin a ffeithiau hanesyddol, gan beri bod storm ym mynwes sawl plentyn wrth iddo fynd o antur i antur wrth droi'r tudalennau.

Er mor gyffredin yw cynnwys rhai o'r tudalennau, ni ddioddefodd erioed oddi wrth y ffasiynau o gyfraniadau otograff a welid o bryd i'w gilydd fel y byddai gennym ni yn nyddiau ysgol.

Digon o luniau a tudalennau jôcs, cwis a rysetiau.

Canlyniad yr ymweliad yw'r lluniau a welir ar y tudalennau nesaf, sy'n ddetholiad o gasgliad llawer mwy.

Un duedd gyffredinol yw cyflwyno cyfarwyddiadau a chynnwys tudalennau o werslyfrau yn llafar i'r dosbarth gan fod hynny'n gyflymach ac yn sicrhau fod yr holl ddisgyblion wedi derbyn yr un wybodaeth.

Mae rysetiau o bob rhanbarth ar gefn tudalennau'r calendr.

Tra bo BJ wedi cydio yn fy nychymyg, peri imi chwerthin yn uchel a fy ysgogi i droi'r tudalennau, ni allaf ddweud yr un peth am CJ.

Cwmni newydd yw 'Tudalen Newydd' sydd yn cynllunio a rhoi tudalennau ar y we.

Mae Gwe Preseli yn cynnig gwasanaeth cyhoeddi tudalennau gwe, gwasanaeth ysgrifennu a gweini.

Yn ogystal, mae tudalennau cyffredinol ar y Gymdeithas a'i hymgyrchoedd.

Mae mentrau atebolrwydd eraill yn cael eu datblygu, gan gynnwys defnyddio tudalennau ar y we yn fwy effeithiol.

Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis

Mae hyn wedi esgor ar nifer o ymholiadau a negeseuon o gefnogaeth o bob ran o Gymru a'r byd (neges o Senegal ydi'r un mwyaf annisgwyl hyd yma!), ac mae nifer wedi cyfrannu'n ariannol wedi darllen y tudalennau.

Nid yn y tudalennau na'r llawysgrifen, fodd bynnag, y mae'r amrywiaeth fwyaf, ond yn yr hyn a sgrifennwyd.

Cofnod o'r seminar yw'r tudalennau sy'n dilyn, ynghyd â gwybodaeth pellach am ddefnyddiau ac asiantau priodol.

mae'r lluniau trawiadol o drist a welir ar y tudalennau sy'n dilyn yn darlunio eu sefyllfa enbydus.

Yn barod, mae 2001 yn argoeli'n dda i artistiaid di-Gymraeg yr hen Gymru fach wrth i'r wasg gerddorol eu holi yn rheolaidd, yn ogystal â'u cynnwys yn y tudalennau newyddion yn wythnosol.

Yn y dyfodol, gobeithir ehangu'r wefan i gynnwys tudalennau mewn ieithoedd eraill (dim ond Cymraeg a Saesneg sydd ar hyn o bryd), a chynnig mwy o wybodaeth fyth -- bydd fersiwn electronig o Faniffesto'r Gymdeithas ar gael i'r byd erbyn yr Haf.

Ond rhaid cydnabod mai tasg enfawr oedd ganddo, sef llenwi dwy golofn hir bob wythnos (o gofio beth oedd maint tudalennau'r Cymro bryd hynny), ac nid yw'n syndod iddo gael ambell wythnos lom.

O leia, roedd mwy o gomisiynau'n dod i'w rhan erbyn hyn nag y gallent obeithio eu cyflenwi, byth er pan fu newyddiadurwyr 'Tŷ a Gardd' o Gaerdydd yn tynnu lluniau o Lety'r Bugail ar gyfer tudalennau'r cylchgrawn dethol hwnnw.

Argraffu I argraffu dogfen dewiswch Print o'r ddewislen File gwnewch yn siwr fod y blychau dewis yn cynnwys y wybodaeth gywir am y tudalennau i'w hargraffu.

Tudalennau lliwgar i ddisgyblion meithrin sy'n dysgu Cymraeg.

Defnydiwyd gymysgedd o CorelDraw 3 a 4 a Paint Shop Pro 3 i greu'r graffeg; HTML Notepad yna Windows Notepad (pan sylweddolwyd bod HTML Notepad yn crap) i sgrifennu'r tudalennau HTML; Netscape Navigator 1.1 a 2 (fersiynau 32-bit) i brofi'r tudalennau; Word 6 i sgrifennu'r rhan helaethaf o'r cynnwys; a PageMaker 5 i gysodi a dylunio'r Tafod go iawn; a hyn i gyd yn rhedeg ar Windows 95 (ie, ie, ie, dwi'n sycyr, ond mae o werth o jyst am yr hwyl o allu gael tafod y ddraig fel eich saeth llygoden).

Trodd Llio'r tudalennau a gwelodd fod rhestr faith o longau a disgrifiad ohonynt - mesuriadau, gwneuthurwyr, mordeithiau a'r hyn a ddigwyddodd iddynt.

"Sgwennu% oedd pob llyfr arall, hyd yn oed rai fel y Rhodd Mam, ac yn fwy fyth y 'Fforddwr, oedd yn cymryd arnynt fod yn siarad ac yn twyllo pobol efo golwg eu tudalennau i ddisgwyl sūn geiriau nid eu siap.

[Mae'r rhifau'n cyfeirio at y tudalennau a'r llinellau]

Mae'r tudalennau a ganlyn yn cynnig canllawiau ynghylch llunio barn ar y materion hynny; nid ydynt yn dynodi'r strwythur y mae'n rhaid ei ddilyn wrth ysgrifennu'r adroddiad ar y pwnc.

Mae tudalennau gwe y swydddfa dreth i gyd yn cael eu paratoi yn Lloegr wrth gwrs - ac mae deddf 1993 yn amherthnasol.