Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tueddwn

tueddwn

Tueddwn i gredu bod bopeth yn well ers talwm - y tywydd, y bwyd, y gymdeithas.

Tueddwn ni i feddwl bod y gair aber yn golygu'r fan lle rhed afon allan i'r mor ond gall hefyd olygu - fel yma - y fan lle rhed afon fechan i un fwy.

Tueddwn ymhyfrydu yn hytrach yn y ffaith fod datblygiadau technolegol wedi gwneud popeth gymaint yn haws na chynt.

Erbyn heddiw tueddwn i feddwl am gŵn fel anifeiliaid anwes ond ar ffermydd a thyddynnod Sir Benfro a Sir Aberteifi y magwyd y ddau fath o gorgi yn arbennig ar gyfer gyrru gwartheg ac er mwyn hela y crewyd cŵn megis Daeargi Sealyham, y Daeargi Cymreig (a fu mor llwyddiannus yn Sioe Cruft eleni) a'r Tarfgi Cymreig (Welsh Springer Spaniel).