Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tun

tun

Darganfuwyd gwaddodion helaeth o olew, nwy a glo dan y môr; gellir cloddio mwynau gwerthfawr megis gro, tun, manganis, copr a hyd yn oed ddiamwntau o'r môr.

Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.

Diweddodd Phil ei yrfa yn y gwaith tun fel rowlwr yn y Ffôr, ac ystyrid ef gan bawb yn weithiwr heb ei ail - a dyna farn rheolwr y gwaith hefyd.

Yn y felin fawr y gweithid y platiau mwyaf a thrymaf yn y gwaith tun.

Yr oedd Phil yn tynnu at ei hanner cant oed bryd hynny, ac er iddo gael gwaith mewn pwll glo am y deunaw mlynedd nesaf, fel gweithiwr tun y cofiaf fi ef.

Ar ôl twrn o waith hynod o galed gydag archeb drom, barn John Williams - un o'r gweithwyr tun mwyaf profiadol oedd mai Phil, yn ddiamheuol, oedd y dyn cryfaf yn y gwaith, ac yr oedd yn hawdd cytuno gydag ef.

Mae tun yn fetel arall nad yw'n rhydu, ac fe'i defnyddir yn y diwydiant tunio.

Yna aeth o docyn tail gwartheg i docyn gan eu cicio yng ngolau'r ffaglen a hel llond tun o bryfaid genwair.

ategu'r ddamcaniaeth mai mewn gwres mawr y dechreuodd y greadigaeth, ac os cefais fendith yn y gwaith tun, y fendith honno oedd cael gweledigaeth o ystyr a phwrpas bywyd.

Mae hwnnw'n pesgi llai ar y sawl sy'n ei yfed o meddai'r broliant ar y tun - llai o galoriau a dim colesterol beth bynnag ydy hwnnw.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Tynnwch y dorch oddi ar y tun.

Yr oedd Daniel ryw ddwy genhedlaeth yn hŷn na mi, a phan euthum yn grotyn i'r gwaith tun yr oedd ef yn rowlo yn y felin fawr.

Ar ôl treulio rhyw ddwy flynedd yn y Llynges a'r ysbytai, daeth Phil adref ac ailgychwyn yn y gwaith tun fel gweithiwr ffwrnais.

Pe bai wedi cael mynd ymlaen i'r Ysgol Sir gallasai gael gyrfa academaidd, ond nid oedd amgylchiadau teuluol yn caniata/ u hynny, a daeth allan o'r ysgol yn dair ar ddeg mlwydd oed i weithio yn y gwaith tun.

Yr oedd yn weithiwr tun bob modfedd ohono, gyda'i ddillad a'i lestri bwyd yn lân ac yn ddestlus bob amser.